Rhoi gwybod i DVLA bod eich cerbyd yn anadferadwy

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA os yw eich cerbyd wedi cael ei ddiddymu a’i sgrapio gan eich cwmni yswiriant.

Mae diddymu a sgrapio eich cerbyd yr un peth â’i werthu i’ch cwmni yswiriant.

Mae angen ichi gofnodi’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a chod post eich cwmni yswiriant - rhowch y rhain yn yr adran ‘rhowch fanylion masnachwr’
  • rhif cofrestru eich cerbyd
  • y rhif cyfeirnod 11 digid o adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid eich cerbyd i’r fasnach modur’ y llyfr log (V5CW)

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o 7am i 7pm.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cynnwys

Gallwch gael dirwy o £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA.

Mae’n rhaid ichi:

Dylech ddinistrio’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid’ y llyfr log pan fyddwch wedi gorffen. Nid oes angen ichi ei hanfon i DVLA.

Bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn ichi am weddill y llyfr log.

Beth sy’n digwydd nesaf

Anfonir y canlynol atoch:

  • cadarnhad e-bost (os gwnaethoch roi cyfeiriad e-bost)
  • llythyr yn cadarnhau nad ydych yn geidwad y cerbyd bellach
  • ad-daliad treth cerbyd am unrhyw fisoedd llawn sydd ar ôl pan fydd DVLA yn cael eich gwybodaeth - os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd yn cael ei ganslo’n awtomatig

Trwy’r post

Cwblhewch adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid eich cerbyd i’r fasnach modur’ eich llyfr log (V5CW) ac anfon yr adran dyllog i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BD

Gall eich cwmni yswiriant ofyn ichi am y llyfr log cyfan. Os bydd hyn yn digwydd, ysgrifennwch lythyr i DVLA gyda manylion eich cwmni yswiriant a’r dyddiad y gwnaethoch roi’r cerbyd iddynt.

Beth sy’n digwydd nesaf

Anfonir y canlynol atoch:

  • llythyr yn cadarnhau nad ydych yn geidwad y cerbyd bellach
  • ad-daliad treth cerbyd am unrhyw fisoedd llawn sydd ar ôl pan fydd DVLA yn cael eich gwybodaeth - os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd yn cael ei ganslo’n awtomatig