Cymryd rhif cofrestru preifat oddi ar gerbyd

Gallwch wneud cais i gymryd rhif preifat (personol) oddi ar gerbyd os ydych eisiau naill ai:

  • cadw’r rhif i’w ddefnyddio yn ddiweddarach

  • ei aseinio i gerbyd arall

Ni allwch gadw rhif sy’n dechrau â ‘Q’ neu ‘NIQ’.

Bydd rhif cofrestru gwreiddiol y cerbyd yn cael ei ail-aseinio iddo yn awtomatig fel arfer pan fyddwch yn cymryd rhif preifat oddi arno.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd dogfen gadw rhifau V778W a llyfr log (V5CW) newydd yn cael eu hanfon atoch.

Rhaid bod eich V778W a’ch llyfr log newydd gennych cyn ichi sgrapio neu werthu eich cerbyd - fel arall, byddwch yn colli’r hawl i ddefnyddio’r rhif preifat.

Cymhwysedd

Rhaid i’r cerbyd:

  • fod wedi’i gofrestru gyda DVLA yn y DU

  • gallu symud o dan ei bŵer ei hunan

  • bod o fath sydd angen MOT neu dystysgrif prawf gerbyd nwyddau trwm (HGV)

  • bod ar gael i’w archwilio - bydd DVLA yn cysylltu â chi os bydd angen iddyn nhw archwilio eich cerbyd

  • wedi cael ei drethu neu wedi cael HOS ar waith yn barhaus am y 5 mlynedd diwethaf

  • fod wedi’i drethu ar hyn o bryd neu fod â HOS yn ei le - os yw wedi cael HOS ers mwy na 5 mlynedd, rhaid ei drethu a chael tystysgrif MOT

Os oes gennych gerbyd hanesyddol (clasur) bydd angen tystysgrif MOT gyfredol arnoch hefyd, hyd yn oed os yw eich cerbyd wedi’i eithrio rhag MOT fel arfer.

Gwneud cais i gymryd rhif oddi ar gerbyd

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £80. Rhaid bod llyfr log (V5CW) y cerbyd gennych.

Os nad yw’r cerbyd yn eich enw chi, rhaid ichi wneud cais drwy’r post.

Gwneud cais ar-lein

Bydd y rhif yn cael ei gymryd oddi ar y cerbyd ar unwaith os nad oes angen archwiliad ar eich cerbyd.

Gallwch aseinio’r rhif i gerbyd arall cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais i’w gymryd oddi ar y cerbyd - defnyddiwch y rhif cyfeirnod y byddwch yn ei gael wedi ichi wneud y cais.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Mae’r gwasanaeth hwn ar agor rhwng 7am a 7pm. Mae hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais drwy’r post

Anfonwch y canlynol i gyd i DVLA:

I drethu eich cerbyd ar yr un pryd, anfonwch bob un o’r canlynol:

Ar ôl ichi wneud cais

Bydd eich rhif cofrestru gwreiddiol yn cael ei ail-aseinio i’ch cerbyd yn awtomatig fel arfer, os bydd eich cais yn llwyddiannus. Bydd hynny’n digwydd ar unwaith.

Bydd y canlynol yn cael eu hanfon atoch:

  • llyfr log (V5CW) newydd yn dangos rhif cofrestru newydd y cerbyd - gall gymryd 4 i 6 wythnos i gyrraedd

  • eich MOT gwreiddiol yn ôl (os gwnaethoch ei anfon i drethu’r cerbyd)

  • dogfen gadw rhifau V778W os ydy’r rhif preifat yn eich enw chi

Os yw’r rhif preifat yn enw rhywun arall, bydd y ddogfen V778W yn cael ei hanfon atyn nhw.

Cyn y gallwch yrru eich cerbyd, rhaid ichi:

  • roi’r platiau gwreiddiol neu’r platiau rhif newydd ar y cerbyd cyn ichi ei yrru

  • dweud wrth eich cwmni yswiriant beth yw eich rhif cofrestru newydd

Wrth bwy i ddweud am eich rhif cofrestru newydd

Rhaid ichi ddweud wrth eich cwmni yswiriant.

Diweddarwch eich rhif cofrestru ar gyfer unrhyw gyfrifon talu awtomatig sydd gennych, er enghraifft i dalu:

  • y Tâl Atal Tagfeydd

  • Tâl y Parth Allyriadau Isel

  • Tâl y Parth Allyriadau Isel Iawn

  • Tâl Dart

  • taliadau am yrru mewn Parthau Aer Glân

Efallai y cewch dâl cosb os na fyddwch yn diweddaru eich manylion cofrestru ac yn mynd i mewn i un o’r parthau hyn.

Os oes gan eich cerbyd ardystiad cynllun Achredu Ôl-osod Cerbydau Glân, mae angen ichi roi eich rhif cofrestru newydd iddynt hwy hefyd.

Beth sy’n digwydd i’r rhif preifat

Mae eich dogfen gadw rhifau V778W yn profi bod yr hawl gennych o hyd i aseinio’r rhif preifat am y 10 mlynedd nesaf.

Rhaid ichi adnewyddu eich hawl i ddefnyddio rhif preifat cyn i’r V778W ddod i ben..

Gallwch ildio’ch hawl i ddefnyddio’r rhif preifat os byddwch yn penderfynu peidio â’i aseinio.