Arddangos platiau rhif

Neidio i gynnwys y canllaw

Trefnu i blatiau rhif gael eu gwneud

Efallai y bydd angen ichi drefnu i blât rhif gael ei wneud os, er enghraifft:

  • yw’ch plât rhif wedi’i golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn

  • rydych yn mewnforio car i’r DU

  • rydych wedi prynu rhif cofrestru personol

Dim ond gan gyflenwr platiau rhif cofrestredig y gallwch gael plât rhif i’w wneud.

Bydd angen i’r cyflenwr weld dogfennau gwreiddiol sy’n:

  • profi’ch enw a’ch cyfeiriad

  • dangos eich bod yn cael defnyddio’r rhif cofrestru

Dogfennau adnabod

Gallwch ddefnyddio’r canlynol i gadarnhau’ch enw a’ch cyfeiriad:

  • trwydded yrru

  • bil cyfleustodau, Treth Gyngor neu ardrethi o’r 6 mis diwethaf

  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu o’r 6 mis diwethaf

  • cerdyn adnabod cenedlaethol

Bydd y canlynol yn cadarnhau’ch enw yn unig:

  • pasbort - nid oes rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn y DU

  • cerdyn debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu

  • cerdyn gwarant yr heddlu

  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog

Profi y gallwch ddefnyddio’r rhif cofrestru

Rhaid ichi ddod ag un o’r canlynol i ddangos bod gennych hawl i arddangos y rhif cofrestru:

  • tystysgrif gofrestru cerbyd (V5CW neu V5CNI)

  • slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o’r V5CW neu V5CNI

  • tystysgrif hawl (V750W neu V750NI) i’r rhif

  • dogfen gadw (V778W)

  • nodyn atgoffa adnewyddu treth cerbyd neu HOS (V11W neu V11NI)

  • tystysgrif gofrestru dros dro (V379 neu V379NI)
  • tystysgrif awdurdodi platiau rhif (V948W) gyda stamp swyddogol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

  • tystysgrif awdurdodi platiau rhif electronig (eV948W neu eV948/2W)

  • llythyr awdurdodi gan weithredwr fflyd (gan gynnwys cwmni prydlesu neu logi) yn dyfynnu’r cyfeirnod dogfen o’r dystysgrif gofrestru

  • os yw eich fflyd yn y cynllun ar-alw V5CW newydd (a elwir hefyd yn ‘ataliad V5CW’), PDF o fanylion y cerbyd o’r gwasanaeth gweld cofnod cerbyd          
  • tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y DU (VTRC)