Ceir a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017

Bydd angen ichi dalu treth pan fydd y cerbyd yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf, a bydd hyn yn sicrhau’r cerbyd am 12 mis.

Ar ôl hynny byddwch yn talu treth cerbyd pob 6 neu 12 mis ar gyfradd wahanol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Taliad treth cyntaf pan rydych yn cofrestru’r cerbyd

Byddwch yn talu cyfradd sy’n seiliedig ar allyriadau CO2 y cerbyd pan y caiff ei gofrestru am y tro cyntaf.

Mae hyn yn berthnasol i rai cartrefi modur hefyd.

Mae’n rhaid ichi dalu cyfradd uwch am geir diesel sydd ddim yn bodloni’r safon Allyriadau Gyrru Real 2 (RDE2) ar gyfer allyriadau nitrogen ocsid. Gallwch ofyn i wneuthurwr eich car os yw eich car yn bodloni’r safon RDE2.

Allyriadau CO2 Ceir diesel (TC49) sy’n bodloni’r safon RDE2, ceir petrol (TC48), ceir tanwydd amgen a di-allyriadau Pob car diesel arall (TC49)
0g/km £10 £10
1 i 50g/km £115 £135
51 i 75g/km £135 £280
76 i 90g/km £280 £365
91 i 100g/km £365 £405
101 i 110g/km £405 £455
111 i 130g/km £455 £560
131 i 150g/km £560 £1,410
151 i 170g/km £1,410 £2,270
171 i 190g/km £2,270 £3,420
191 i 225g/km £3,420 £4,850
226 i 255g/km £4,850 £5,690
Dros 255g/km £5,690 £5,690

Mae’r taliad hwn yn sicrhau eich cerbyd am 12 mis.

Cyfraddau am yr ail daliad treth ymlaen

Petrol neu ddiesel, Trydan a Thanwydd amgen
Un taliad am 12 mis £200
Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol £200
Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol £210
Un taliad am 6 mis £110
Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol £105

Mae cerbydau tanwydd amgen yn cynnwys cerbydau hybrid, bioethanol a nwy petrolewm hylifedig.

Cerbydau gyda phris catalog o fwy na £40,000 (petrol/diesel) neu £50,000 (trydan)

Mae’n rhaid ichi dalu £440 ychwanegol y flwyddyn os oes gennych un o’r canlynol:

  • car neu gartref modur gyda ‘phris catalog’ o fwy na £40,000
  • car neu gartref modur trydan gyda phris catalog o fwy na £50,000

Mae hwn hefyd yn berthnasol i gerbydau trydan a gofrestrwyd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

Nid oes rhaid ichi dalu hwn os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych gerbyd di-allyriadau
  • cofrestrwyd y cerbyd cyn 1 Ebrill 2025

Y pris catalog yw pris cyhoeddedig y cerbyd cyn iddo gael ei gofrestru am y tro cyntaf. Dyma’r pris cyn gwneud unrhyw ostyngiadau.

Mae dim ond angen ichi dalu’r gyfradd hon am 5 mlynedd (o’r ail dro y trethir y cerbyd).

Gwiriwch y pris catalog gyda’ch deliwr ichi gael gwybod faint o dreth cerbyd y bydd rhaid ichi dalu.

Petrol neu ddiesel, Trydan a Thanwydd amgen
Un taliad am 12 mis £640
Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol £640
Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol £672
Un taliad am 6 mis £352
Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol £336