Cartrefi modur

Mae’r gyfradd dreth cerbyd yn seiliedig ar bwysau refeniw’r cerbyd (a elwir hefyd yn uchafswm pwysau cerbyd neu bwysau gros cerbyd).

Nwyddau ysgafn neu breifat (TC11)

Mae gan gerbydau nwyddau ysgafn neu breifat bwysau refeniw o 3,500kg neu lai.

Maint yr injan (cc) Un taliad am 12 mis Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol Un taliad am 6 mis Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol
Dim dros 1549 £210 £210 £220.50 £115.50 £110.25
Dros 1549 £345 £345 £362.25 £189.75 £181.13

Nwyddau trwm preifat (TC10)

Mae gan gerbydau nwyddau trwm preifat bwysau refeniw dros 3,500kg.

Un taliad am 12 mis Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol Un taliad am 6 mis Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol
£165 £165 £173.25 £90.75 £86.63

Os cafodd eich cartref modur ei gofrestru rhwng 1 Ebrill 2017 a 11 Mawrth 2020

Byddwch yn talu cyfradd wahanol o dreth os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol i’ch cartref modur:

  • mae yn y categori M1SP - gwiriwch gyda’ch deliwr os nad ydych yn siŵr
  • mae ei allyriadau CO2 wedi’u cynnwys ar y ‘dystysgrif cymeradwyaeth math’ (gellir galw hon yn ‘dystysgrif cydymffurfiad’ neu ‘gymeradwyaeth cerbyd unigol’)