Platiau rhif preifat (personol)
Ildio'ch hawl i ddefnyddio rhif preifat
Efallai y cewch ad-daliad o £80 os oes gennych hawl i ddefnyddio rhif preifat ond rydych yn penderfynu peidio â’i aseinio i gerbyd.
Mae hyn yn ad-dalu’r ffi o £80 a dalwyd gennych pan wnaethoch naill ai:
-
brynu’r rhif (cafodd y ffi ei gynnwys yn y gost)
-
cymryd y rhif oddi ar gerbyd
Gallwch wneud cais am ad-daliad os:
-
na chafodd y rhif ei aseinio i unrhyw gerbyd ar ôl ichi dalu’r ffi
-
oes gennych y ddogfen V778W neu V750W ddiweddaraf - os ydych wedi’i cholli a’i bod yn dal yn ddilys gallwch gael un amnewid gan DVLA
Os cyhoeddwyd y ddogfen cyn 9 Mawrth 2015, dim ond ar ôl iddi ddod i ben y gallwch gael ad-daliad. Ni allwch gael dogfen newydd os yw wedi dod i ben.
Ticiwch yr adran ‘Ildio’r hawl i’r rhif cofrestru hwn’ o’r ddogfen V778W neu V750W, ei llofnodi a’i hanfon i:
Rhifau Cofrestru Personol DVLA
Abertawe
SA99 1DS
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r gost postio gywir.
Ni allwch ddefnyddio’r rhif preifat ar ôl ichi ildio’ch hawl iddo.
Mae proses wahanol os yw’r person sydd â’r hawl i ddefnyddio’r rhif preifat wedi marw.