Contact DVLA

Ymholiadau Cymraeg

Cyn cysylltu â DVLA, gallwch wirio pa wybodaeth a gwasanaethau Cymraeg DVLA sydd ar gael ar GOV.UK.

Dros y ffôn

Ffôn: 0300 790 6819
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm
Cael gwybod am gostau ffôn

Drwy e-bost

Defnyddiwch y gwasanaeth e-bost Cymraeg i gysylltu â DVLA.

Drwy’r post

Trwyddedau gyrru a cheisiadau

Gwasanaethau Cwsmeriaid Gyrwyr
Tîm Gohebiaeth
DVLA
Abertawe
SA6 7JL

Treth cerbyd, cofrestru, tystysgrifau V5CW (llyfrau log) a HOS

Gwasanaethau Cwsmeriaid Cerbyd
DVLA
Abertawe
SA99 1AR

Gyrru a materion meddygol

Ymholiadau Meddygol Gyrwyr
DVLA
Abertawe
SA99 1TU

Pryd i gysylltu â DVLA

Arhoswch am yr amser prosesu cyn cysylltu â DVLA.

Treth cerbyd a HOS

Math o gais Amser prosesu
Cadarnhad HOS dros y ffôn 4 wythnos
Ad-daliad treth cerbyd dros y ffôn neu ar-lein 6 wythnos
Pob cais DVLA drwy’r post 6 i 8 wythnos

Trwyddedau gyrru a cheisiadau 

Math o gais Amser prosesu
Ar-lein 2 wythnos 
Post 3 wythnos

Gall gymryd yn hirach os oes angen i DVLA wirio eich hunaniaeth neu’ch manylion meddygol.

Cofrestru cerbyd a thystysgrifau V5CW (llyfrau log)

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd yn rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.

Os gwnaethoch gais ar-lein

Math o gais Amser prosesu
Cael llyfr log dyblyg 2 wythnos  
Newid cyfeiriad 4 wythnos
Newid ceidwad cofrestredig 4 wythnos
Cadarnhad eich bod wedi gwerthu eich cerbyd 4 wythnos
Cadw, rhoi neu gymryd rhif cofrestru preifat oddi ar gerbyd 2 wythnos

Os gwnaethoch gais dros y ffôn neu drwy’r post

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.

Gyrru ac ymholiadau meddygol

Os ydych yn rhoi gwybod i DVLA am gyflwr meddygol, bydd eich cais fel arfer yn cymryd 6 wythnos. Gall gymryd yn hirach os oes angen ei gyfeirio at feddyg.

Your answers

Start again

1. What do you need to contact DVLA about?
Welsh language enquiries (Cymraeg)
Change 1. What do you need to contact DVLA about?