Cofrestrwch eich cerbyd fel oddi ar y ffordd (HOS)

Dywedwch wrth DVLA eich bod yn cymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd, er enghraifft os ydych yn ei gadw mewn garej. Gelwir hyn weithiau yn ‘Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol’ (HOS).

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Byddwch yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn o dreth sy’n weddill. Ni allwch ddefnyddio’r cerbyd ar y ffordd nes eich bod yn ei drethu eto.

Nid oes angen ichi wneud HOS am gerbyd rydych wedi’i werthu’n barod. Dywedwch wrth DVLA eich bod wedi gwerthu cerbyd yn lle.

Gwneud cais i gymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd

Bydd eich HOS yn dechrau ar unwaith os:

  • yw eich treth cerbyd wedi dod i ben
  • nad ydych yn gwneud cais yn y mis y mae eich treth cerbyd yn dod i ben

Bydd eich HOS yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis canlynol os ydych yn gwneud cais yn y mis y mae eich treth cerbyd yn dod i ben.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais ar-lein os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn eich enw chi.

Dechreuwch pan rydych yn barod i gymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd.

Gallwch wneud cais gan ddefnyddio’r:

  • rhif 11-digid ar eich llyfr log cerbyd (V5CW)
  • rhif 16-digid ar eich nodyn atgoffa treth cerbyd

Gall eich nodyn atgoffa treth cerbyd fod yn llythyr (V11W), e-bost neu neges destun.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Os yw eich cyfeiriad yn anghywir ar eich llyfr log (V5CW)

Newidiwch eich cyfeiriad ar-lein, wedyn cofrestrwch eich cerbyd fel oddi ar y ffordd.

Gallwch hefyd ddiweddaru eich cyfeiriad drwy’r post. Ysgrifennwch eich cyfeiriad newydd yn:

  • adran 3 os oes gennych lyfr log steil newydd (â blociau amryliw wedi’u rhifo ar y clawr blaen)
  • adran 6 os oes gennych lyfr log steil hŷn

Anfonwch ffurflen V890W wedi’i llenwi â’ch llyfr log i DVLA.

Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn eich enw

Llenwch y rhan briodol o’r llyfr log a’i anfon â ffurflen V890W wedi’i llenwi.

Os nad oes gennych lyfr log

Llenwch ac anfonwch gais am lyfr log (V62W) a ffurflen V890W i DVLA - mae llyfr log newydd yn costio £25.

Gallwch gael llyfr log (V5CW) dyblyg os yw eich un gwreiddiol ar goll, wedi’i ddwyn, wedi’i ddifrodi neu wedi’i ddinistrio.

Ffyrdd eraill i wneud cais

Drwy ffonio

Gwasanaeth cerbydau DVLA Ffôn: 0300 123 4321
Gwasanaeth 24-awr
Cael gwybod am gostau galwadau

Drwy’r post

Anfonwch ffurflen gais (V890W) i DVLA.

Gallwch wneud cais i gymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd naill ai:

  • y mis hwn
  • y mis nesaf neu’r mis wedyn - bydd angen cynnwys llythyr yn dweud pam nad ydych yn gallu anfon y ffurflen yn agosach at yr amser

DVLA
Abertawe
SA99 1AR