Newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW)

Neidio i gynnwys y canllaw

Newid eich cyfeiriad

Mae’n rhaid ichi ddiweddaru eich llyfr log cerbyd (V5CW) os ydych yn newid eich cyfeiriad. Fel arfer mae’n rhad ac am ddim i’w ddiweddaru.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’n rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Bydd angen ichi ddiweddaru eich manylion mewn ffordd wahanol os:

Hefyd ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • ydych eisoes wedi anfon eich llyfr log i DVLA
  • ydych wedi colli eich llyfr log - mae angen ichi wneud cais am lyfr log newydd yn lle
  • yw eich cerbyd wedi’i gofrestru fel rhan o gynllun fflyd DVLA
  • yw eich cyfeiriad newydd dramor, gan gynnwys ynysoedd y sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon

Newid eich cyfeiriad ar-lein

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid y cyfeiriad yn eich llyfr log i gyfeiriad newydd yn y DU.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 7am i 8pm.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid ichi fod yn ‘geidwad cofrestredig’ y cerbyd.

Dechrau nawr

Cyn ichi ddechrau

Mae arnoch angen:

  • rhif cofrestru eich cerbyd
  • cyfeirnod eich llyfr log
  • cyfeiriad yn y DU
  • gwirio os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf

Os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf bydd angen ichi drethu eich cerbyd ar-lein trwy ddefnyddio eich V5CW gyfredol cyn newid eich cyfeiriad.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch hefyd wneud cais trwy’r post i newid eich cyfeiriad. Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar ba steil o lyfr log sydd gennych.

Os oes gennych y llyfr log steil newydd gyda blychau aml-lyw wedi’u rhifo ar y clawr blaen, mae angen ichi:

  • ysgrifennu’r cyfeiriad newydd yn adran 3 - peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
  • anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 3

Os oes gennych y llyfr log steil hen, mae angen ichi:

  • ysgrifennu’r cyfeiriad newydd yn adran 6 - peidiwch â defnyddio cyfeiriad Blwch PO
  • llofnodi ac anfon y llyfr log llawn i’r cyfeiriad DVLA yn adran 8

Peidiwch â thicio’r blwch ‘ceidwad newydd’ na chwblhau eich enw ar y ffurflen steil hen.

Os oes angen i’ch cerbyd gael ei drethu yn y 4 wythnos nesaf

Gallwch naill ai:

  • drethu eich cerbyd ar-lein cyn anfon eich llyfr log i DVLA
  • cymryd eich llyfr log i Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd, i newid eich manylion a threthu eich cerbyd yr un pryd

Bydd angen ichi gymryd eich tystysgrif brawf MOT ddiweddaraf os oes angen i’ch cerbyd gael MOT bob blwyddyn. Mae’n rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y dreth cerbyd yn dechrau.

Os ydych yn symud i gyfeiriad y tu allan i’r DU

Os ydych yn cymryd eich cerbyd, ewch â’ch llyfr log a chofrestru’r cerbyd yn y wlad rydych yn symud iddi.

Os oes gennych ôl-gerbyd, efallai y bydd angen ichi ei gofrestru i’w gymryd dramor.

Os nad yw eich llyfr log newydd yn cyrraedd

Cysylltwch â DVLA os nad yw’r llyfr log newydd wedi cyrraedd ar ôl 6 wythnos.