Skip to main content

Newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Sgipio cynnwys

Gwneud cais ar-lein

Newid y cyfeiriad ar naill ai:

  • eich trwydded yrru lawn
  • eich trwydded yrru dros dro

Ni chodir tâl i newid eich cyfeiriad gyda DVLA.

Gallwch barhau i yrru tra’ch bod yn aros am eich trwydded newydd.

Os ydych yn dymuno newid eich enw ar yr un pryd, bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Mae’n rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy i fyny at £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Mewngofnodi i adnewyddu ar-lein

Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Dywedir wrthych pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn ichi ddechrau

Mae arnoch angen y canlynol:

Os ydych am newid eich ffotograff ar yr un pryd

Y gost yw £14. Gallwch dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta. Nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded cyfnod byr meddygol.

Os ydych yn symud dramor

Ni allwch gofrestru eich cyfeiriad newydd ar eich trwydded yrru Brydeinig. Cysylltwch â’r awdurdod trwyddedau gyrru yn eich gwlad breswyl newydd.

Ar ôl ichi wneud cais

Byddwch yn cael e-bost cadarnhau gan DVLA ar ôl ichi wneud cais. Mae’n bosib y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Pa mor hir y mae’n ei gymryd

Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein.