Adnewyddu eich trwydded yrru

Adnewyddu eich:

  • trwydded yrru lawn
  • trwydded yrru dros dro

Mae’n costio £14 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae’n rhaid ichi adnewyddu trwydded cerdyn-llun bob 10 mlynedd - byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn bod eich trwydded bresennol yn dod i ben.

Bydd angen ichi wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf os:

  • nad ydych wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro o’r blaen
  • gwnaethoch gais am drwydded yrru dros dro cyn 1 Mawrth 1973

Mae ffordd wahanol i:

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pwy all adnewyddu ar-lein

I adnewyddu eich trwydded ar-lein bydd arnoch angen naill ai:

  • pasbort y DU
  • y ddogfen a ddefnyddiwyd gennych i sefydlu eich statws mewnfudo ar-lein

Os nad oes gennych un o’r rhain, bydd angen ichi wneud cais mewn Swyddfa’r Post neu drwy’r post.

Os yw eich enw neu deitl wedi newid ni allwch wneud cais ar-lein. Gallwch adnewyddu eich trwydded drwy’r post yn unig.

Adnewyddu ar-lein

Bydd eich trwydded newydd yn ddilys o’r dyddiad y mae eich cais yn cael ei gymeradwyo, nid o ddyddiad dod i ben eich trwydded bresennol.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

I adnewyddu eich trwydded mae’n rhaid ichi:

Bydd arnoch angen:

  • eich pasbort y DU (naill ai’n gyfredol neu wedi dod i ben o fewn y 12 mis diwethaf) neu’r ddogfen a ddefnyddiwyd gennych i sefydlu eich statws mewnfudo ar-lein
  • eich trwydded yrru bresennol (os ydyw gennych)
  • eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod)
  • cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf

Dogfennau a ddefnyddir i sefydlu statws mewnfudo ar-lein

Os nad ydych yn ddinesydd y DU, gallwch brofi eich hunaniaeth gan ddefnyddio’r cyfeirnod o’r ddogfen a ddefnyddiwyd gennych i sefydlu eich statws mewnfudo ar-lein. Bydd y ddogfen yn un o’r canlynol:

  • pasbort o’r tu allan y DU
  • caniatâd preswylio biometrig
  • cerdyn preswylio biometrig
  • cerdyn adnabod cenedlaethol

Y gost

Mae adnewyddu eich trwydded yn costio £14. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded cyfnod byr am resymau meddygol).

Pa mor hir mae’n ei gymryd

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae’n rhaid ichi anfon eich hen drwydded yrru cerdyn-llun i DVLA pan fyddwch yn derbyn eich trwydded newydd. Bydd y cyfeiriad i’w ddefnyddio yn cael ei roi ichi pan fyddwch yn gorffen y cais.

Data personol

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Gwneud cais mewn Swyddfa’r Post

Byddwch yn cael llythyr atgoffa yn y post. Gallwch gymryd hwn i Swyddfa’r Post sy’n delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA.

Bydd hefyd angen ichi gymryd:

  • eich trwydded cerdyn-llun os ydyw gennych
  • y ffi o £21.50

Os nad oes gennych lythyr atgoffa, bydd arnoch angen eich trwydded cerdyn-llun i wneud cais mewn Swyddfa’r Post.

Ni allwch wneud cais mewn Swyddfa’r Post os yw eich enw wedi newid. Bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch gael ‘pecyn D1W’ o ffurflenni o Swyddfa’r Post sy’n delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA neu dreth cerbyd.

Mae angen ichi gynnwys y pethau canlynol gyda’ch ffurflenni wedi’u cwblhau:

  • ffotograff math pasbort diweddar (peidiwch â llofnodi cefn y llun)
  • eich trwydded cerdyn-llun bresennol, os ydyw gennych
  • siec neu archeb bost am £17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi yn daladwy os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol neu os ydych yn 70 oed neu’n hŷn)

Mae hefyd angen ichi gynnwys dogfennau adnabod os ydych wedi newid eich enw.

Anfonwch y cais i:

DVLA
Abertawe
SA99 1DH

Ar ôl ichi wneud cais mewn Swyddfa’r Post neu drwy’r post

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Gallwch barhau i yrru tra rydych yn aros am eich trwydded newydd gyrraedd.