Newid y ffotograff ar eich trwydded yrru

Mae angen ichi adnewyddu eich trwydded yrru lawn neu dros dro os ydych am ddiweddaru eich ffotograff. Byddwch yn cael trwydded newydd.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch wneud cais ar-lein gyda’r DVLA os oes gennych basbort y DU dilys ac rydych eisiau defnyddio eich ffotograff pasbort.

Dechrau nawr

Cynnwys

Ni allwch wneud cais ar-lein os yw’ch enw neu deitl wedi newid neu os oes gennych drwydded fws neu lori 5-mlynedd.

I adnewyddu ar-lein, bydd angen ichi:

  • gael pasbort y DU dilys
  • bod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr – mae proses gwahanol i gael yng Ngogledd Iwerddon
  • talu £14 gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol)
  • rhoi cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf
  • cael eich trwydded yrru (os nad oes gennych eich trwydded yrru mae’n rhaid ichi ddweud pam fel rhan o’ch cais)
  • cael eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych un ei wybod)
  • peidio â bod wedi eich gwahardd rhag gyrru

Bydd DVLA yn cael y ffotograff a’r llofnod ar gyfer eich trwydded yrru newydd o’ch pasbort. Os nad yw hwn yn bosibl ni fyddwch yn gallu newid eich ffotograff ar-lein.

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun, mae’n rhaid ichi ei hadnewyddu bob 10 mlynedd - byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn i’ch trwydded gyfredol ddod i ben.

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’. Gallwch ei chael o’r rhan fwyaf o’r Swyddfeydd Post. Bydd angen cynnwys:

  • ffotograff math pasbort newydd sydd wedi’i dynnu o fewn y mis diwethaf (peidiwch â llofnodi cefn y ffotograff)
  • y cerdyn-llun a’r gwrthddalen bapur o’ch trwydded gyfredol (os ydych wedi colli un neu’r llall, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen D1W)
  • siec neu archeb bost am £17 yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol)

Anfonwch eich cais a’r ffi (os oes angen) i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1DH

Os ydych wedi newid eich enw, bydd hefyd angen ichi gynnwys dogfennau adnabod.