Cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded cerdyn-llun
Mae’n rhaid ichi gael trwydded newydd os:
- ydych yn newid eich cyfeiriad
- ydych yn newid eich enw
- ydych am wneud hyfforddiant Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC)
- yw’ch trwydded wedi’i difwyno, ei cholli, ei dwyn neu ei dinistrio
Os nad yw unrhyw un o’r rhain yn berthnasol ac mae’ch trwydded yrru bapur yn parhau i fod yn ddilys, nid oes angen ichi ei chyfnewid am fersiwn cerdyn-llun.
Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych wedi newid eich enw. Gwnewch gais drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen D1W ar gyfer ceir a beiciau modur, neu ffurflen D2W ar gyfer lorïau a bysiau. Mae’r ddwy ffurflen ar gael yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post.
Ffioedd
Mae’n rhad ac am ddim i gael trwydded newydd os ydych wedi newid eich enw neu gyfeiriad ac mae gennych eich trwydded bapur o hyd.
Mae’n costio £20 i gael trwydded newydd os yw’ch trwydded wedi’i difwyno, ei cholli, ei dwyn neu ei dinistrio neu am unrhyw reswm arall.
Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta.
Mewngofnodi i adnewyddu ar-lein
Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Dywedir wrthych pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
I adnewyddu ar-lein rhaid ichi:
- fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr
- peidio â bod wedi eich gwahardd rhag gyrru
- peidio â bod wedi eich atal rhag gyrru am unrhyw reswm
- bodloni’r isafswm gofyniad golwg
Gyrru cyn ichi gael eich trwydded newydd
Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:
- mae gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru
- roedd gennych drwydded ddilys
- rydych yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol yn unig
- mae eich cais yn llai na blwydd oed
- nid oedd eich trwydded flaenorol wedi cael ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol
- nid ydych wedi cael eich gwahardd ar hyn o bryd
- nid oeddech wedi cael eich gwahardd fel troseddwr risg uchel ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013
Darllen y canllaw ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o wybodaeth.
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais.
Gwneud cais drwy’r post
Gallwch wneud cais i gyfnewid eich trwydded drwy’r post drwy lenwi:
- ffurflen D1W am geir a beiciau modur
- ffurflen D2W am fysiau a lorïau
Gallwch gael y rhain o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post. Bydd angen ichi hefyd gynnwys:
- dogfennau adnabod gwreiddiol
- ffotograff lliw math pasbort
- y ffi o £20, os oes angen (os ydych yn gwneud cais drwy’r post gwnewch sieciau neu orchmynion post yn daladwy i DVLA - peidiwch ag anfon arian parod)
Ar gyfer ceir a beiciau modur, anfonwch eich holl ddogfennau i:
DVLA
Abertawe
SA99 1BU
Ar gyfer bysiau a lorïau, anfonwch eich holl ddogfennau i:
DVLA
Abertawe
SA99 1BR
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd DVLA yn anelu at anfon eich trwydded yrru o fewn 3 wythnos. Gall gymryd yn hirach os oes angen gwirio eich manylion meddygol neu bersonol.