Skip to main content

Amnewid trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Sgipio cynnwys

Gwneud cais ar-lein

Gallwch amnewid eich:

  • trwydded yrru lawn
  • trwydded yrru dros dro

Mae trwydded newydd yn costio £20. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta.

Os gwnaethoch gais am eich trwydded yrru dros dro ddiwethaf cyn 1 Mawrth 1973, bydd angen ichi ddilyn y broses i wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf yn lle.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid oes angen gwrthddalen bapur eich trwydded arnoch.

Mewngofnodi i adnewyddu ar-lein

Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Dywedir wrthych pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.

Dechrau nawr

Cyn ichi ddechrau

Dylech gysylltu â’r heddlu os yw’ch trwydded yrru wedi cael ei dwyn.

I amnewid eich trwydded bydd rhaid ichi:

  • fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae gwasanaeth gwahanol i gael yng Ngogledd Iwerddon)
  • peidio â bod wedi’ch gwahardd rhag gyrru am unrhyw reswm

Ar ôl ichi wneud cais

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Pa mor hir mae’n ei gymryd

Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein.

Beth i’w wneud os ydych yn dod o hyd i’ch hen drwydded yn ddiweddarach

Mae’n rhaid ichi ddychwelyd eich hen drwydded i DVLA yn esbonio beth sydd wedi digwydd os ydych yn dod o hyd iddi ar ôl gwneud cais am un amnewid neu’n derbyn un amnewid.

Anfonwch eich hen drwydded yrru i:

DVLA
Abertawe
SA99 1AB