Skip to main content

Amnewid trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Sgipio cynnwys

Gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post

Gallwch hefyd wneud cais i amnewid eich trwydded dros y ffôn neu drwy’r post.

Gwneud cais dros y ffôn

Gallwch gysylltu â DVLA i wneud cais dros y ffôn os:

  • oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

  • nad oes unrhyw un o’ch manylion wedi newid

Ni allwch wneud cais dros y ffôn os yw’ch trwydded wedi’i difetha, neu os yw’n dod i ben mewn llai na 56 diwrnod (90 diwrnod os yw’n dod i ben am resymau meddygol).

Gwneud cais drwy’r post

Ar gyfer trwydded gar neu feic modur, llenwch ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’.

Ar gyfer trwydded yrru lori neu fws, llenwch ffurflen D2W ‘Cais am drwydded yrru’.

Mae ffurflenni D1W a D2W ar gael o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post.

Yna bydd angen ichi anfon eich cais i’r cyfeiriad ar y ffurflen ynghyd â’r ffi gywir (a ddangosir hefyd ar y ffurflen).

Os yw’ch enw wedi newid, bydd hefyd angen ichi anfon dogfennau gwreiddiol sy’n cadarnhau hyn.

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Bydd hefyd angen ichi: