Dogfennau adnabod sydd eu hangen ar gyfer cais am drwydded yrru

Mae sut i brofi eich hunaniaeth ar gyfer cais am drwydded yrru yn dibynnu ar ba ddogfennau sydd gennych.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Profi eich hunaniaeth gan ddefnyddio pasbort y DU

Os oes gennych basbort y DU dilys, ysgrifennwch y rhif pasbort 9 digid ar y ffurflen gais.

Peidiwch ag anfon eich pasbort corfforol.

Ni allwch ddefnyddio rhif pasbort o basbort sydd wedi dod i ben.

Profwch eich hunaniaeth gan ddefnyddio cod rhannu

Gallwch brofi eich hunaniaeth â chod rhannu os gwnaethoch ddefnyddio’r ‘Gwiriad ID: Mewnfudo’r DU’ neu ap ‘Gwiriad Dogfen ID: Gadael yr UE’ wrth wneud cais:

  • am fisa
  • i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Gallwch gael cod rhannu o’r gwasanaeth gweld a phrofi eich statws mewnfudo. Dewiswch yr opsiwn ‘rhywbeth arall’ pan ofynnir ichi ar gyfer beth mae angen y cod rhannu arnoch.

Ysgrifennwch y cod ar eich ffurflen gais. Peidiwch ag anfon dogfen adnabod gorfforol.

Os nad oes gennych basbort y DU neu god rhannu

Bydd angen ichi anfon dogfen adnabod trwy’r post i brofi eich hunaniaeth.

Anfonwch un o’r canlynol â’ch cais:

  • pasbort tramor cyfredol a dilys, â sticer neu stamp fisa (o’r enw ‘vignette’) yn dangos bod gennych ganiatâd i fyw yn y DU
  • pasbort Gwyddelig cyfredol a dilys - nid oes angen iddo gael sticer na stamp fisa
  • caniatâd preswylio biometrig y DU (BRP)
  • dogfen deithio
  • tystysgrif geni, mabwysiadu neu frodori y DU - bydd angen ichi anfon prawf hunaniaeth ychwanegol â hyn
  • tystiolaeth eich bod yn derbyn pensiwn y wladwriaeth

Tystysgrifau geni, mabwysiadu a brodori y DU

Gallwch ddefnyddio tystysgrif geni, mabwysiadu neu frodori y DU, ond mae’n rhaid ichi ei hanfon ag un o’r canlynol:

  • Cerdyn Yswiriant Gwladol, neu lythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau EM gan ddangos eich rhif Yswiriant Gwladol - dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
  • llungopi o dudalen flaen llyfr budd-daliadau neu lythyr hawlio budd-daliadau gwreiddiol
  • P45, P60 neu slip cyflog
  • tystysgrif priodas neu bapurau ysgaru (archddyfarniad amodol neu absoliwt)
  • tystysgrif adnabod rhywedd
  • cerdyn undeb coleg neu brifysgol, tystysgrif addysg neu gerdyn PASS profi oedran (a gyhoeddwyd ar ôl Mehefin 2014)

Os ydych chi’n bensiynwr

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch anfon copi gwreiddiol o un o’r canlynol yn eich enw:

  • datganiad banc neu gymdeithas adeiladu diweddar (o fewn 3 mis) sy’n dangos eich taliad pensiwn a rhif Yswiriant Gwladol
  • llythyr BR2102, BR2103 neu BR5899 yn cadarnhau eich cymhwyster ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth

Sut i anfon eich dogfen adnabod

Mae’n rhaid ichi anfon y ddogfen wreiddiol â’ch cais am drwydded yrru.

Ni allwch ddefnyddio:

  • llungopïau na thystysgrifau wedi’u lamineiddio
  • copïau wedi’u hardystio gan gynnwys y rheini a ardystiwyd gan wasanaeth ardystio dogfennau Swyddfa’r Post

Ystyriwch oedi eich cais am drwydded yrru os oes angen eich pasbort arnoch yn y 4 wythnos nesaf.

Cael rhywun i lofnodi eich ffurflen a’ch ffotograff

Mae’n rhaid ichi gael rhywun arall i lofnodi eich ffurflen a’ch ffotograff i wirio eich hunaniaeth.

Nid oes angen ichi gael llofnod ar eich ffurflen na’ch ffotograff gan rywun arall os gwnaethoch brofi eich hunaniaeth gan ddefnyddio pasbort y DU neu god rhannu.

Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n llofnodi’r ffurflen a’r ffotograff:

  • ddal trwydded yrru cerdyn-llun Prydain Fawr dilys
  • preswylio yn y DU
  • eich adnabod chi yn bersonol
  • peidio â bod yn berthynas
  • peidio â byw yn yr un cyfeiriad â chi

Mae pobl addas yn cynnwys y canlynol (presennol neu wedi ymddeol):

  • unigolyn busnes lleol neu siopwr
  • llyfrgellydd
  • unigolyn wedi’i gymhwyso’n broffesiynol, er enghraifft cyfreithiwr, athro neu beiriannydd
  • swyddog heddlu
  • aelod staff banc neu gymdeithas adeiladu
  • gwas sifil
  • gweinidog crefydd
  • ynad
  • cynghorydd lleol
  • Aelod Senedd, Aelod y Cynulliad, neu Aelod o Senedd yr Alban

Os yw wedi ymddeol, bydd angen ichi ysgrifennu ei swydd flaenorol ar y ffurflen, er enghraifft ‘athro wedi ymddeol’.

Bydd DVLA yn cysylltu â’r unigolyn sy’n llofnodi eich cais.

Pan na fydd angen ichi gael llofnod ar eich ffotograff

Nid oes angen ichi gael rhywun i lofnodi eich ffotograff os ydych wedi cytuno i DVLA wirio’ch hunaniaeth trwy:

  • gysylltu â Swyddfa Pasbort EM
  • darparu pasbort cyfredol, dogfen deithio neu BRP
  • defnyddio cod rhannu i ddangos cadarnhad digidol o’ch statws mewnfudo

Nid oes angen ichi gael rhywun i lofnodi eich ffotograff os ydych yn adnewyddu eich trwydded â llun newydd.

Cael eich dogfennau yn ôl

Byddwch yn cael eich trwydded yrru a dogfennau adnabod ar wahân.

Mae dogfennau adnabod yn cael eu dychwelyd trwy bost ail ddosbarth. Cynhwyswch amlen wedi’i stampio hunangyfeiriedig danfoniad arbennig neu Lofnodwyd ar ei Chyfer â’ch cais os ydych am olrhain pryd mae’ch dogfennau yn cael eu postio.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich trwydded na’ch dogfennau yn ôl.

Os yw eich enw neu rywedd wedi newid

Mae’n rhaid ichi ddarparu tystiolaeth ychwanegol os yw eich enw neu rywedd wedi newid ers i’ch dogfen adnabod neu drwydded yrru gael ei dosbarthu.

Os ydych wedi newid eich enw, mae angen ichi ddarparu o leiaf un o’r canlynol:

  • eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • eich archddyfarniad amodol neu archddyfarniad absoliwt, ynghyd â’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu, neu dystysgrif brodori y DU
  • gweithred newid enw
  • datganiad statudol

Os ydych wedi newid eich hunaniaeth rhywedd, mae angen ichi ddarparu o leiaf un o’r canlynol:

Mae’n rhaid ichi hefyd ddarparu’r ddogfen adnabod neu dystysgrif yrru sy’n dangos eich enw neu hunaniaeth rhywedd blaenorol.

Cael datganiad statudol

Gallwch gael datganiad statudol sy’n cadarnhau eich bod wedi newid enw neu rywedd (o’r enw ‘datganiad statudol’) oddi wrth:

  • gyfreithiwr
  • ynad
  • comisiynydd llwon