Gwneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf
Cael eich trwydded yrru dros dro gyntaf ar gyfer moped, beic modur neu gar arlein o’r DVLA. I wneud cais mae’n rhaid i chi:
- bod o leiaf 15 mlynedd a 9 mis oed
- allu ddarllen rhif cofrestru cerbyd o 20 metr i ffwrdd
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Bydd arnoch angen eich ID Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych un neu os oes angen ail-gofrestru, byddwch yn derbyn ID fel rhan o’ch cais.
Os oes eisoes gennych drwydded yrru dros dro, nid oes angen i chi wneud cais arall i yrru car.
Dechrau nawr ar drwyddedu gyrru arlein
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi ddarparu:
- dogfen wreiddiol oni bai bod gennych basport biometrig y DU dilys
- cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf
- eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn ei wybod
- taliad o £34 gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron, Maestro neu Delta
Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhad wrth DVLA ar ôl i chi wneud cais.
Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn un wythnos os ydych yn gwneud cais arlein.
Pryd y gallwch yrru gyda thrwydded dros dro
Mae gwahanol fathau o reolau yn ddibynnol ar eich oedran a’r math o gerbyd. Gwirio pa gerbydau y gallwch yrru a phryd cyn i chi ddechrau dysgu.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch wneud cais drwy’r post. Llenwch ffurflen D1W sydd ar gael o’r gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA a rhai canghennau Swyddfa’r Post.
Mae rhaid i chi hefyd gynnwys:
- dogfen adnabod oni bai bod gennych pasbort biometrig y DU dilys
- ffotograff math pasbort mewn lliw
- siec neu archeb bost am £43 yn daladwy i’r DVLA (peidiwch ag anfon arian parod)
Mae’n rhaid i chi anfon dogfennau gwreiddiol - ni allwch ddefnyddio gwasanaeth ardystio dogfennau Swyddfa’r Post.
Anfonwch eich cais a’r taliad i:
- DVLA, Abertawe, SA99 1AD - os yw’ch holl ddogfennau o’r DU
- DVLA, Abertawe, SA99 1AF - os yw unrhyw rhai o’ch dogfennau o du allan i’r DU
Dylai eich trwydded dros dro gyrraedd o fewn 3 wythnos. Cysylltwch â’r DVLA os nad ydyw wedi cyrraedd erbyn hynny.