Rheolau golwg ar gyfer gyrru

Mae’n rhaid ichi wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd pob tro rydych yn gyrru os oes eu hangen arnoch i fodloni’r ‘safonau golwg ar gyfer gyrru’.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA os oes gennych unrhyw broblem gyda’ch golwg sy’n effeithio ar y ddau lygad, neu’r llygad sy’n weddill os oes gennych un llygad yn unig.

Nid yw hwn yn cynnwys cael golwg byr neu bell neu liwddallineb. Hefyd nid oes angen ichi ddweud os ydych wedi cael llawdriniaeth i gywiro golwg byr ac yn gallu bodloni’r safonau golwg.

Gallwch wirio a oes angen ichi roi gwybod i DVLA am y broblem â’ch golwg trwy chwilio’r A i Z o gyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich gyrru.

Gallech gael eich erlyn os ydych yn gyrru heb fodloni’r safonau golwg ar gyfer gyrru.

Safonau golwg ar gyfer gyrru

Mae’n rhaid ichi allu darllen (â sbectol neu lensys cyffwrdd, os oes eu hangen) plât rhif car a wnaed ar ôl 1 Medi 2001 o bellter o 20 metr.

Mae’n rhaid ichi hefyd fodloni’r isafswm safon golwg ar gyfer gyrru trwy gael craffter gweledol o ddegolyn 0.5 (6/12) o leiaf, wedi’i fesur ar raddfa Snellen (â sbectol neu lensys cyffwrdd os oes eu hangen) gan ddefnyddio’r ddwy lygad gyda’i gilydd neu, os oes gennych olwg mewn un llygad yn unig, yn y llygad hwnnw.

Mae’n rhaid ichi hefyd gael maes golwg digonol - gall eich optegydd ddweud wrthych am hwn a chynnal prawf.

Gyrwyr lorïau a bysiau

Mae’n rhaid ichi gael craffter gweledol o 0.8 (6/7.5) o leiaf wedi’i fesur ar raddfa Snellen yn eich llygad gorau ac o leiaf 0.1 (6/60) ar raddfa Snellen yn y llygad arall.

Gallwch fodloni’r safon hon trwy ddefnyddio sbectol â phŵer cywiro o ddim mwy na (+) 8 dioptrau, neu drwy ddefnyddio lensys cyffwrdd. Nid oes terfyn penodol ar gyfer pŵer cywiro lensys cyffwrdd.

Mae’n rhaid ichi gael maes golwg llorwedd di-dor o 160 gradd o leiaf gydag estyniad o 70 gradd o leiaf i’r dde a’r chwith a 30 gradd i fyny ac i lawr. Ni ddylai fod unrhyw nam o fewn radiws o’r 30 gradd ganolog.

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA os oes gennych unrhyw broblem â’ch golwg sy’n effeithio ar unrhyw lygad.

Efallai y byddwch yn dal i allu adnewyddu eich trwydded lori neu fws os na allwch fodloni’r safonau hyn ond roeddech wedi dal eich trwydded cyn 1 Ionawr 1997.

Y prawf golwg yn y prawf gyrru ymarferol

Ar ddechrau’r prawf gyrru ymarferol mae’n rhaid ichi ddarllen plât rhif yn gywir ar gerbyd wedi’i barcio. Os na allwch, byddwch yn methu eich prawf gyrru ac ni fydd y prawf yn parhau. Rhoddir gwybod i DVLA a bydd eich trwydded yn cael ei dirymu.

Pan fyddwch yn ail-ymgeisio am eich trwydded yrru, bydd DVLA yn gofyn ichi gael prawf golwg gyda DVSA. Cynhelir hwn yng nghanolfan prawf gyrru. Os ydych yn llwyddiannus, bydd dal yn rhaid ichi basio prawf golwg safonol DVSA yn eich prawf golwg ymarferol nesaf.