Adnewyddu eich trwydded yrru yn 70 oed neu’n hŷn
Adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein gyda DVLA am ddim os ydych yn 70 oed neu’n hŷn - neu eich bod yn 70 oed yn y 90 diwrnod nesaf.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Adnewyddu ar-lein
Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Dywedir wrthych pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID â ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu eich trwydded yrru Brydeinig os ydych yn 70 oed neu drosodd, neu byddwch yn 70 oed yn y 90 diwrnod nesaf, a:
- bod eich trwydded Brydeinig wedi dod i ben - neu y bydd yn dod i ben o fewn 90 diwrnod
- eich bod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae gwasanaeth gwahanol i gael yng Ngogledd Iwerddon)
- eich bod yn bodloni’r safon golwg cyfreithiol
- nid ydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru am unrhyw reswm
Unwaith eich bod yn 70 oed, mae’n rhaid ichi adnewyddu pob 3 mlynedd.
Gallwch newid y ffotograff sydd ar y drwydded ar yr un pryd eich bod yn adnewyddu eich trwydded.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i adnewyddu hawl C1 (cerbydau maint canolig) neu D1 (bws mini) - mae’n rhaid ichi wneud hwn drwy’r post.
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.
Gyrru tra bod eich trwydded gyda DVLA
Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:
- bod gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru
- roedd gennych drwydded ddilys
- rydych yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol yn unig
- mae eich cais yn llai na blwydd oed
- nid oedd eich trwydded ddiwethaf wedi cael ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol
- nid ydych wedi cael eich gwahardd ar hyn o bryd
- nid oeddech wedi eich gwahardd fel troseddwr risg mawr ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013
Darllen y canllaw ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o wybodaeth.
Gwneud cais drwy’r post
Gallwch wneud cais drwy’r post gan ddefnyddio’r ffurflen gais D46PW.
Bydd DVLA yn anfon y ffurflen hon atoch yn awtomatig 90 diwrnod cyn eich penblwydd yn 70 oed neu cyn i’ch trwydded ddod i ben.
Defnyddiwch y ffurflen gais am drwydded yrru D1W os nad oes gennych y ffurflen D46PW. Gallwch gael un yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post.
Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.
Mae’n rhaid ichi adnewyddu eich hawl C1 (cerbydau maint canolig) neu D1 (bws mini) drwy’r post.