Newid eich enw ar eich llyfr log cerbyd (V5CW)

Rhaid ichi ddiweddaru eich llyfr log cerbyd (V5CW) os ydych yn newid eich enw. Fel arfer mae’n rhad ac am ddim i’w ddiweddaru.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os nad ydych yn dweud wrth DVLA pan fydd eich enw yn newid.

Gallwch hefyd ddiweddaru gwybodaeth os yw’n anghywir drwy gamgymeriad, er enghraifft os yw eich enw wedi’i sillafu’n anghywir.

Gall gymryd hyd at 6 wythnos i gael eich llyfr log newydd ar ôl ichi ei anfon i ffwrdd.

Mae angen ichi ddilyn proses wahanol os:

Beth i’w wneud gyda’ch llyfr log

Pan rydych yn llenwi eich llyfr log a’i anfon i ffwrdd, gwnewch yn siŵr:

  • dim ond enw un unigolyn sydd ynddo
  • rydych yn cynnwys llythyr yn esbonio pam fod angen newid yr enw yn eich llyfr log
  • rydych yn cynnwys prawf o’ch newid enw os ydych yn newid eich enw’n gyfreithiol (er enghraifft gweithred newid enw)
  • rydych yn cynnwys prawf o newid enw’r busnes (fel tystysgrif gorffori gan Dŷ’r Cwmnïau) - os yw ceidwad cofrestredig y cerbyd yn fusnes

Nid oes angen ichi gynnwys prawf o’ch newid enw os ydych yn newid eich enw oherwydd eich bod wedi priodi neu ysgaru, neu oherwydd iddo gael ei sillafu’n anghywir yn y llyfr log drwy gamgymeriad.

Ar gyfer llyfrau log steil newydd gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y blaen

I newid eich enw os oes gennych y llyfr log steil newydd:

  • ysgrifennwch yr enw newydd yn llawn yn adran 3 - peidiwch â rhoi blaenlythrennau
  • anfonwch y llyfr log cyfan i gyfeiriad y DVLA yn adran 3
  • cynhwyswch lythyr yn esbonio pam fod angen newid yr enw yn eich llyfr log
  • cynhwyswch brawf os ydych yn newid eich enw yn gyfreithiol, er enghraifft gweithred newid enw

Ar gyfer llyfrau log steil hen

Os oes gennych y llyfr log steil hŷn heb y blociau wedi’u rhifo amryliw ar y clawr, mae angen ichi:

  • ysgrifennu’r enw newydd yn llawn yn adran 6 - peidiwch â rhoi blaenlythrennau
  • llofnodi ac anfon y llyfr log cyfan i gyfeiriad y DVLA yn adran 8
  • cynnwys llythyr yn esbonio pam fod angen newid yr enw yn eich llyfr log
  • cynnwys prawf os ydych yn newid eich enw yn gyfreithiol, er enghraifft gweithred newid enw

Peidiwch â thicio’r blwch ‘ceidwad newydd’ ar y ffurflen steil hŷn.

Os oes angen trethu eich cerbyd yn ystod y 4 wythnos nesaf

Naill ai:

  • trethwch eich cerbyd ar-lein cyn anfon eich llyfr log i DVLA
  • ewch â’ch llyfr log i Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd, i newid eich manylion a threthu eich cerbyd ar yr un pryd

Bydd hefyd angen ichi fynd â phrawf o MOT ddilys. Er enghraifft, sgrin lun o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Ewch â’ch tystysgrif prawf MOT ddiweddaraf os oes rhaid i’ch cerbyd gael MOT bob blwyddyn. Rhaid i’r dystysgrif fod yn ddilys pan fydd y dreth cerbyd yn dechrau.

Os ydych wedi colli’ch llyfr log ac angen newid eich enw

Mae angen ichi anfon y canlynol i gyd i DVLA:

  • cais am lyfr log (V62W) wedi’i lenwi
  • llythyr yn esbonio’r rheswm dros eich cais
  • siec neu archeb bost am £25 yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’

Ni dderbynnir sieciau wedi’u difrodi neu eu newid.

DVLA
Abertawe
SA99 1DD

Gall gymryd hyd at 6 wythnos i gael y llyfr log newydd.

Rhaid ichi gael cyfeiriad yn y DU i wneud cais am lyfr log newydd. Os ydych yn symud dramor gwnewch gais cyn ichi fynd â’ch cerbyd y tu allan i’r DU.

Os na fydd eich llyfr log newydd yn cyrraedd

Cysylltwch â DVLA os nad yw’r llyfr log newydd wedi cyrraedd ar ôl 6 wythnos.