Am 12 mis neu fwy

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA os ydych yn cymryd eich cerbyd allan o’r DU, gan gynnwys i Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon, am 12 mis neu fwy. Gelwir hyn yn allforio parhaol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Bydd angen ichi:

  1. Lenwi’r adran ‘allforio parhaol’ yn llyfr log eich cerbyd (V5CW) a’i datgysylltu o’r llyfr log.

  2. Anfon yr adran ‘allforio parhaol’ wedi’i chwblhau i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Cynnwys llythyr os ydych wedi symud dramor ac eisiau i’ch ad-daliad treth cerbyd (os oes gennych hawl i un) gael ei anfon i’ch cyfeiriad newydd.

  3. Cadw gweddill eich llyfr log (V5CW) - mae ei angen arnoch i gofrestru eich cerbyd yn y wlad rydych yn mynd ag ef iddi.

  4. Diweddaru’r cyfeiriad ar eich trwydded yrru os ydych yn symud tŷ.

Os oes ad-daliad yn ddyledus ichi, byddwch yn ei dderbyn o fewn 4 i 6 wythnos fel arfer. Mae’r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich adran ‘allforio parhaol’.

Os ydych yn prynu cerbyd i’w gymryd dramor, gwnewch yn siŵr bod y gwerthwr yn dilyn y broses gywir ar gyfer cerbydau a fydd yn cael eu cofrestru mewn gwlad arall. Rhaid iddynt roi’r llyfr log llawn (V5CW) ichi - nid y slip ceidwad newydd yn unig.

Os nad oes gennych lyfr log cerbyd (V5CW)

Cyn ichi adael y DU

Mae angen ichi gael llyfr log cerbyd (V5CW) cyn ichi adael y DU. Ni all DVLA anfon llyfr log cerbyd i gyfeiriad y tu allan i’r DU.

Gallai gymryd hyd at:

  • 5 diwrnod os ydych yn gwneud cais ar-lein
  • 4 i 6 wythnos os ydych yn gwneud cais drwy’r post neu os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu’ch enw

Pan fyddwch yn derbyn eich llyfr log, llenwch ac anfonwch yr adran ‘allforio parhaol’ i DVLA.

Os na fyddwch chi’n ei dderbyn cyn ichi adael y DU, cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych chi’n teithio iddi. Byddant yn dweud wrthych pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch.

Os ydych chi eisoes wedi gadael y DU

Cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych chi’n mynd â’r cerbyd iddi. Byddant yn dweud wrthych pa ddogfennau y bydd angen ichi eu darparu i gofrestru’r cerbyd yno.

Mae angen ichi hefyd anfon llythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o’r wlad. Dylech gynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • gwneuthuriad, model ac os yw’n bosibl, rhif adnabod cerbyd y cerbyd
  • y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o’r wlad

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Os na allwch gael llyfr log cerbyd (V5CW)

Cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych chi’n mynd â’r cerbyd iddi - byddant yn dweud wrthych sut i gofrestru’ch cerbyd.

Anfonwch lythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o’r wlad. Dylech gynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o’r wlad
  • i ble y gall DVLA anfon yr ad-daliad treth cerbyd

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Os yw’r adran ‘allforio parhaol’ ar goll

Os nad yw’r adran ‘allforio parhaol’ yn y llyfr log, anfonwch lythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o’r wlad. Dylech gynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o’r wlad

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Symud eich cerbyd rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon

Cwblhewch yr adran newid cyfeiriad yn eich llyfr log a’i hanfon i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Cofrestriadau personol

Bydd angen ichi drosglwyddo neu gadw eich cofrestriad personol cyn allforio eich cerbyd. Fel arall byddwch yn colli eich hawl i’r rhif cofrestru.

Os ydych yn fasnachwr moduron

Bydd angen ichi:

  • lenwi’r adran ‘allforio parhaol’ yn llyfr log eich cerbyd (V5CW) a’i datgysylltu o’r llyfr log
  • anfon yr adran ‘allforio parhaol’ wedi’i chwblhau i DVLA, Abertawe, SA99 1BD