Am lai na 12 mis

Mae beth sydd angen ichi ei wneud yn dibynnu ar p’un ai ydych yn cymryd:

  • eich cerbyd eich hun dramor
  • cerbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu dramor

Cymryd eich cerbyd eich hun dramor

Rhaid ichi fynd â llyfr log eich cerbyd (V5CW) gyda chi os ydych yn mynd â’ch cerbyd dramor am lai na 12 mis. Efallai y bydd yn rhaid ichi ei ddangos os cewch eich stopio mewn porthladd neu wrth yrru dramor.

Rhaid i’ch V5CW ddangos eich cyfeiriad diweddaraf yn y DU.

Gwnewch gais o flaen llaw os oes angen ichi gael V5CW neu i ddiweddaru eich V5CW cyn ichi deithio. Gallai gymryd hyd at:

  • 5 diwrnod os ydych yn gwneud cais ar-lein
  • 4 i 6 wythnos os ydych yn gwneud cais drwy’r post neu os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu’ch enw

Mae cyfraith y DU yn dal i fod yn berthnasol i gerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU os byddwch yn mynd ag ef dramor am lai na 12 mis. Mae hynny’n golygu bod angen ichi wneud yn siŵr:

  • bod eich cerbyd yn cael ei drethu yn y DU tra ei fod dramor
  • bod gennych MOT cyfredol
  • bod gennych yswiriant

Bydd angen ichi hefyd sicrhau eich bod yn bodloni unrhyw amodau rhyngwladol neu genedlaethol ar gyfer trwyddedu a threthiant.

Gwirio a oes angen ichi dalu toll mewnforio

Efallai y bydd angen ichi dalu toll mewnforio ar eich cerbyd os byddwch yn mynd ag ef y tu allan i’r DU. Gwiriwch gyda’r awdurdodau yn y wlad rydych yn mynd â’ch cerbyd iddi.

Nid oes angen ichi dalu toll mewnforio i fynd â’ch cerbyd o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr neu’r UE.

Os ydych yn mynd i wlad y tu allan i’r UE sy’n codi toll, gallwch brynu CPD Carnet. Mae hyn yn gadael ichi fynd â’ch cerbyd i’r wlad dros dro heb dalu toll. Gall hefyd wneud croesi’r ffin yn symlach.

Bydd yn rhaid ichi dalu ffi a blaendal. Fel arfer byddwch yn cael y carnet o fewn 4 wythnos o wneud cais.

Mynd â’ch cerbyd i Liechtenstein, Mecsico neu Somalia

Rhaid ichi fynd â Thystysgrif Ryngwladol ar gyfer Cerbydau Modur (ICMV) gyda chi yn ogystal â’ch V5CW.

Gwneud cais am ICMV.

Dod â’ch cerbyd yn ôl heb dreth

Os byddwch yn dod â’ch cerbyd yn ôl i’r DU heb dreth, ni allwch ei yrru yn ôl i’r DU - bydd yn rhaid ei gludo a rhaid gwneud HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) ar unwaith.

Mynd â cherbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu dramor

Bydd angen tystysgrif llogi cerbyd VE103 arnoch i ddangos bod gennych hawl i ddefnyddio cerbyd sydd wedi’i logi neu gerbyd ar brydles os ydych yn ei yrru dramor.

Gallwch gael VE103 am ffi gan:

Mynd â cherbyd sydd wedi’i logi neu ei brydlesu i Liechtenstein, Mecsico neu Somalia

Rhaid ichi fynd â ICMV gyda chi, yn ogystal â thystysgrif llogi cerbyd VE103.

Bydd angen ichi ofyn i’r cwmni y gwnaethoch logi neu brydlesu’r cerbyd oddi wrtho wneud cais am ICMV.