Cael llyfr log cerbyd (V5CW)

Sgipio cynnwys

Cael llyfr log (V5CW) amnewid

Mae angen ichi gael tystysgrif V5CW amnewid (llyfr log cerbyd) os:

  • yw’r un wreiddiol ar goll, wedi’i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
  • oes angen ichi ddiweddaru manylion penodol

Gallwch wneud cais ar-lein neu dros y ffôn os gall y manylion yn y V5CW aros yr un fath. Bydd y V5CW yn cael ei phostio i’r cyfeiriad sydd gan DVLA ar gofnod y cerbyd.

Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein ar yr un pryd.

Gwnewch gais drwy’r post os:

  • oes angen ichi newid y manylion cerbyd ar eich V5CW
  • na chawsoch V5CW am eich cerbyd newydd
  • nad oes gennych V5CW a gwnaethoch gymryd eich cerbyd y tu allan i’r DU

Mae ffyrdd eraill o gael llyfr log (V5CW) newydd os:

Os ydych wedi gwerthu neu drosglwyddo cerbyd heb lyfr log, rhowch wybod i DVLA drwy’r post.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais ar-lein am V5CW amnewid

Rhaid ichi fod y ceidwad cofrestredig ar y V5CW i wneud cais ar-lein.

Byddwch yn derbyn eich tystysgrif V5CW drwy’r post o fewn 5 i 7 diwrnod gwaith fel arfer.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 2 wythnos ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.

Pan na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • oes angen ichi newid unrhyw un o’ch manylion
  • nad yw’r cerbyd yn eich meddiant
  • rydych eisoes wedi anfon eich V5CW i DVLA er mwyn iddynt wneud newidiadau
  • yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru fel rhan o gynllun fflyd DVLA
  • yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon

Faint yw’r gost

Mae’r gwasanaeth fel arfer yn costio £25. Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd.

Ni allwch gael ad-daliad ar ôl ichi ddefnyddio’r gwasanaeth (er enghraifft os ydych yn dod o hyd i’ch V5CW yn ddiweddarach).

Gwneud cais ar-lein

Bydd arnoch angen:

  • rhif cofrestru’r cerbyd
  • rhif adnabod cerbyd (VIN) neu rif siasi eich cerbyd
  • yr enw a chod post sydd wedi’u cofrestru ar eich V5CW

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael:

  • o ddydd Llun i ddydd Gwener, 7am i 9pm 

  • ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 7am i 8pm

Dechrau nawr

Gwneud cais am V5CW amnewid dros y ffôn

Gallwch wneud cais dros y ffôn os mai chi yw’r ceidwad cofrestredig ar y V5CW sydd wedi mynd ar goll neu wedi’i difetha.

Ni allwch wneud cais dros y ffôn os bydd unrhyw un o’ch manylion neu fanylion eich cerbyd wedi newid. Ni ddylai’r manylion fod yn wahanol i’r wybodaeth yn y V5CW sydd ar goll neu wedi’i difetha.

Bydd arnoch angen:

  • rhif cofrestru’r cerbyd
  • rhif adnabod cerbyd (VIN) neu rif siasi eich cerbyd
  • yr enw a chod post sydd wedi’u cofrestru ar eich V5CW

Cysylltwch â DVLA dros y ffôn i wneud cais.

Fel arfer byddwch yn derbyn eich V5CW o fewn 5 i 7 diwrnod gwaith. Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 2 wythnos ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.