Newid pa mor aml rydych yn talu

Pan fyddwch yn sefydlu eich Debyd Uniongyrchol gallwch ddewis talu:

  • bob mis
  • bob 6 mis
  • bob blwyddyn

Bydd DVLA yn cymryd y taliadau ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis. Ni allwch ei newid i ddyddiad gwahanol.

I newid pa mor aml rydych yn talu (er enghraifft, o bob 6 mis i bob mis), mae’n rhaid ichi ganslo’ch Debyd Uniongyrchol ac yna trethu’ch cerbyd eto.

Beth sydd angen ichi ei wneud

  1. Gofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo’ch Debyd Uniongyrchol. Yn dibynnu ar eich cyfrif, gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post, neu mewn cangen.

  2. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan y dyddiad roedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus.

  3. Trethu eich cerbyd ar ddiwrnod cyntaf y mis roedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus. Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW).

  4. Dewis yr opsiwn Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu eich cerbyd. Yna dewiswch pa mor aml rydych am dalu - naill ai’n fisol, bob 6 mis neu bob blwyddyn.

Enghraifft Rydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol bob 6 mis, ond eisiau talu’n fisol yn lle hynny.

Cymerwyd y taliad olaf ar 1 Ionawr, a disgwylir yr un nesaf ar 1 Gorffennaf.

Rydych yn canslo’r Debyd Uniongyrchol gyda’ch banc ar 15 Mawrth. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan 30 Mehefin.

Ar 1 Gorffennaf, mae’n rhaid ichi drethu’r cerbyd eto gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol misol.