Newid cyfrif banc neu ddull talu

Pan fyddwch am newid y cyfrif y cymerir eich Debyd Uniongyrchol oddi wrtho gallwch naill ai:

  • ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu newydd symud eich Debydau Uniongyrchol o’ch hen gyfrif
  • newid i gyfrif arall sydd gennych eisoes

Gallwch hefyd newid i dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Newid banc neu gymdeithas adeiladu

Gall y rhan fwyaf o fanciau’r DU symud Debydau Uniongyrchol o’ch hen gyfrif banc i’ch cyfrif newydd.

Nid oes angen ichi ddweud wrth DVLA neu wneud unrhyw beth arall.

Symud eich Debyd Uniongyrchol i gyfrif sydd gennych eisoes

Mae’n bosibl y bydd eich banc yn gallu symud Debyd Uniongyrchol o un o’ch cyfrifon i un arall os yw’r ddau gyfrif gyda nhw. Gwiriwch gyda’ch banc.

Cysylltwch â DVLA os:

  • na all eich banc symud y Debyd Uniongyrchol i’ch cyfrif arall
  • yw’r 2 gyfrif gyda gwahanol fanciau

Bydd angen ichi ddarparu:

  • rhif eich cyfrif newydd a chod didoli
  • enw a chyfeiriad eich banc neu gymdeithas adeiladu newydd

Os byddwch yn ysgrifennu i DVLA, rhaid i’r person a sefydlodd y Debyd Uniongyrchol lofnodi a dyddio’r llythyr.

Talu gyda cherdyn debyd neu gredyd

  1. Gofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo’ch Debyd Uniongyrchol. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan y dyddiad yr oedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus.

  2. Trethu eich cerbyd ar ddiwrnod cyntaf y mis yr oedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus. Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW).

  3. Talu’r dreth ar eich cerbyd gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.