Adnewyddu eich treth cerbyd

Bydd eich Debyd Uniongyrchol ar gyfer treth cerbyd yn adnewyddu’n awtomatig pan ddaw i ben.

Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr yn dweud wrthych pryd y caiff eich taliadau eu cymryd.

Ni fydd llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) yn cael ei anfon atoch.

Peidiwch â threthu eich cerbyd eto. Os gwnewch hynny, codir tâl arnoch ddwywaith.

Rhaid i geidwad y cerbyd fod â llyfr log cerbyd (V5CW) cyn adnewyddu treth y cerbyd.

Os nad oes gan geidwad y cerbyd V5CW

Ni fydd eich Debyd Uniongyrchol yn adnewyddu’n awtomatig os nad oes ceidwad cerbyd yng nghofnodion y DVLA.

Gallwch ddweud wrth DVLA pwy yw ceidwad y cerbyd ar-lein.

Os na chewch e-bost neu lythyr pan fydd eich treth cerbyd yn dod i ben, dylech gysylltu â DVLA.

Os nad oes gennych MOT neu yswiriant yn ei le

Bydd DVLA yn ysgrifennu atoch os bydd tystysgrif MOT eich cerbyd wedi dod i ben pan fydd treth eich cerbyd i fod i adnewyddu.

Rhaid i’ch cerbyd basio MOT erbyn i’r un presennol ddod i ben.

Ar ôl iddo basio MOT, bydd cofnodion DVLA yn cael eu diweddaru’n awtomatig. Bydd eich treth cerbyd yn cael ei hadnewyddu ar y dyddiad yr oedd i fod i ddod i ben.

Nid oes angen ichi gysylltu â DVLA na threthu eich cerbyd eto.

Os na chewch MOT mewn pryd, bydd angen ichi drethu eich cerbyd eto.

Os yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid ichi hefyd gael yswiriant pan fydd eich treth cerbyd i fod i adnewyddu. Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych a fydd eich yswiriant wedi dod i ben erbyn hynny.