Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol

Neidio i gynnwys y canllaw

Rhoi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch roi gwybod os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich ‘gallu i weithio’.

Gallai hyn olygu eich bod:

  • angen cefnogaeth yn y gwaith
  • angen dod o hyd i waith addas
  • methu gweithio dros dro neu yn y tymor hir

Gallwch barhau i weithio os teimlwch y gallwch neu os dewch o hyd i waith addas. Darganfyddwch fwy am gael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.

Sut i roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd

Bydd angen i chi ddarparu manylion am eich cyflwr iechyd, megis:

  • triniaethau meddygol yr ydych yn eu derbyn
  • os ydych yn yr ysbyty neu’n disgwyl mynd i’r ysbyty
  • os ydych chi’n feichiog

Nid oes angen i chi ddarparu’r rhain os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod gennych 12 mis neu lai i fyw.

Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn syth, gan gynnwys:

  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd, er enghraifft mae’n gwella neu’n gwaethygu
  • cyflwr iechyd newydd

Gallwch wneud hyn yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Nodiadau ffitrwydd

Mae’n rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd (a elwir hefyd yn ‘nodyn salwch’) os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio am fwy na 7 diwrnod.

Bydd gofyn i chi ddarparu manylion o’ch nodyn ffitrwydd yn eich cyfrif.

Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan un o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • meddyg teulu neu feddyg ysbyty
  • nyrs gofrestredig
  • therapydd galwedigaethol
  • fferyllydd
  • ffisiotherapydd

Gellir ei argraffu neu roi ar ffurf digidol.

Os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio am fwy na 28 diwrnod, efallai y bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio. Rhaid i chi barhau i gael nodiadau ffitrwydd nes eich bod wedi cael penderfyniad am eich asesiad.

Pan ddaw eich nodyn ffitrwydd i ben

Os yw eich iechyd yn dal i effeithio ar eich gallu i weithio rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd newydd pan ddaw i ben.

Byddwch yn cael nodyn atgoffa cyn i’ch nodyn ffitrwydd ddod i ben. Bydd y nodyn atgoffa yn cynnwys y dyddiad y mae angen i chi roi gwybod am un newydd erbyn.

Bydd angen i chi ddiweddaru’r manylion yn eich cyfrif gyda’ch nodyn ffitrwydd newydd. Os na wnewch hynny, bydd angen i chi fynychu apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith i drafod eich ymrwymiad hawlydd.

Os na chewch nodyn ffitrwydd newydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.

Os oes angen Asesiad Gallu i Weithio arnoch

Pwrpas yr Asesiad Gallu i Weithio yw helpu i benderfynu faint mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.

Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr sy’n dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Cyn eich asesiad, bydd angen i chi lenwi holiadur iechyd ‘Gallu i Weithio’ (UC50). Byddwch yn gallu anfon copïau o wybodaeth feddygol arall gyda hwn, fel cynlluniau triniaeth neu ganlyniadau profion.

Gall yr asesiad fod mewn person, drwy alwad fideo, neu dros y ffôn.

Gallwch gael rhywun gyda chi, er enghraifft ffrind neu weithiwr cymorth.

Cyn penderfyniad eich asesiad

Hyd nes y gall penderfyniad gael ei wneud ar eich Asesiad Gallu i Weithio, byddwch naill ai’n:

  • cael y lwfans safonol, os ydych yn gwneud cais newydd
  • parhau i gael yr un swm o Gredyd Cynhwysol, os ydych yn dweud wrthym am newid mewn amgylchiadau.

Rhaid i chi barhau i gael nodiadau ffitrwydd a darparu manylion amdanynt yn eich cyfrif hyd nes y byddwch wedi cael penderfyniad am eich asesiad. Os na chewch nodyn ffitrwydd newydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.