Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol

Neidio i gynnwys y canllaw

Os ydych chi'n cael y premiwm anabledd difrifol

Os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i, y premiwm anabledd difrifol efallai y gallwch gael ‘amddiffyniad trosiannol’ os symudwch i Gredyd Cynhwysol.

Mae hwn yn daliad ychwanegol i helpu gyda’ch symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd y mwyafrif o bobl yn cael hwn yn awtomatig ond bydd angen i rai wneud cais amdano.

Cymhwyster

Fe gewch y taliad hwn os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych chi (neu’ch partner) yn cael neu mae gennych hawl i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • rydych chi’n cael neu mae gennych hawl, i’r premiwm anabledd difrifol o fewn y mis yn union cyn diwrnod cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol
  • rydych chi’n dal yn gymwys i gael y premiwm anabledd difrifol ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol
  • nid ydych wedi ymuno â chais Credyd Cynhwysol presennol

Os ydych mewn cwpwl ac rydych yn cael neu mae gennych hawl i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol uwch, yna mae angen bod y canlynol hefyd yn berthnasol yn y mis cyntaf ar ôl i chi wneud cais Credyd Cynhwysol:

  • nid oes neb yn cael unrhyw Lwfans Gofalwr neu Daliad Cymorth Gofalwr am ofalu amdanoch chi neu’ch partner
  • nid oes neb yn cael swm ychwanegol ar ben eu taliadau Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi neu’ch partner

Sut i wneud cais

Byddwch yn cael taliad gwarchodaeth drosiannol yn awtomatig, os oes gennych hawl iddo, pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd hyn yn ymddangos yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner

Bydd angen i chi wneud cais am y taliad gwarchodaeth drosiannol os:

  • ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner

  • ydynt yn cael, neu mae ganddynt hawl i, premiwm anabledd difrifol fel rhan o gais am Gymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm

Rhaid i chi wneud cais o fewn mis o wahanu o’ch partner.

Gwnewch gais am eich taliad gwarchodaeth drosiannol naill ai drwy:

Beth gewch chi

Os ydych chi’n sengl byddwch yn cael:

  • £132.12, os yw’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â Gwaith wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
  • £313.79, os nad yw’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol

Os ydych chi mewn cwpl byddwch yn cael:

  • £445.91, os ydych yn cael neu mae gennych hawl, i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol uwch
  • £132.12, os ydych yn cael neu mae gennych hawl i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol is a bod yr elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol chi neu eich partner
  • £313.79, os ydych yn cael neu mae gennych hawl, i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol is ac nad yw’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol

Symiau ychwanegol

Gallech gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os ydych yn cael, neu os oes gennych hawl i, bremiymau anabledd eraill neu’r premiwm plentyn anabl.

Os ydych yn cael premiymau anabledd eraill

Gallwch gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os:

  • rydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd uwch neu’r premiwm anabledd o fewn y mis yn union cyn diwrnod cyntaf eich cais am Gredyd Cynhwysol
  • rydych yn dal yn gymwys ar gyfer y premiwm anabledd uwch neu’r premiwm anabledd ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n sengl, fe gewch yn ychwanegol:

  • £84, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd uwch
  • £172, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd

Os ydych chi mewn cwpl fe gewch yn ychwanegol:

  • £120, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd uwch
  • £246, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd

Os ydych yn cael y premiwm plentyn anabl

Efallai y byddwch yn cael y premiwm plentyn anabl fel rhan o’ch

  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • JSA yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Plant (a elwir yn ‘elfen blentyn anabl’)

Gallwch gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os:

  • ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r, premiwm plentyn anabl o fewn y mis yn syth cyn diwrnod cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol

  • ydych yn dal i fod yn gymwys am y premiwm plentyn anabl ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol

  • mae cyfradd is yr elfen plentyn anabl wedi’i chynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol

Byddwch yn cael £177 ychwanegol ar gyfer pob plentyn cymwys.

Newidiadau i’r swm gwarchodaeth drosiannol

Mae gwarchodaeth drosiannol yn gostwng dros amser yn unol ag unrhyw gynnydd yn eich Credyd Cynhwysol. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw gynnydd i dalu costau gofal plant.

Bydd yn dod i ben os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn hawlydd sengl ac yn dechrau byw gyda’ch partner

  • rydych yn stopio byw gyda’ch partner

  • mae eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu mwy na’r swm gwarchodaeth drosiannol

  • mae eich enillion yn is na’r Trothwy Enillion Gweinyddol (AET) am fwy na 3 chyfnod asesu (mae’r AET yn £494 y mis i unigolyn a £782 y mis i bâr)

  • mae eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben

Os bydd eich Credyd Cynhwysol yn dod i ben am lai na 3 mis oherwydd bod eich enillion yn rhy uchel, efallai y byddwch yn cael gwarchodaeth drosiannol eto pan fydd eich cais yn ailddechrau.