Os ydych yn cael Asesiad Gallu i Weithio

Ar ôl i chi roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd, efallai bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio. Os ydych yn cael asesiad, byddwch yn cael penderfyniad ar ôl sy’n nodi a ydych:

  • yn ffit i weithio (hefyd yn cael ei adnabod fel ‘yn alluog i weithio)
  • angen paratoi i weithio yn y dyfodol, ond gyda gallu cyfyngedig i weithio (LCW)
  • gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)

Mae’r penderfyniad yn effeithio os gallwch gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.

Gallwch chi barhau i weithio os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu, hyd yn oed os dywedwyd wrthych bod gennych allu cyfyngedig i weithio neu os oes angen i chi baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Gallwch ennill hyd at swm penodol heb iddo effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch. Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith’.

Os ydych yn ffit i weithio

Bydd angen i chi gytuno i chwilio am waith sy’n addas ar gyfer eich cyflwr iechyd.

Byddwch yn cael y lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Os mae angen i chi baratoi i weithio yn y dyfodol

Mae angen i chi baratoi i weithio yn y dyfodol, ond mae gennych allu cyfyngedig i weithio ar hyn o bryd. Gallwch weithio os ydych yn teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny.

Bydd eich anogwr gwaith yn trafod eich sefyllfa ac yn cytuno ar gamau i’ch helpu i ddechrau paratoi ar gyfer gwaith. Er enghraifft, drwy ysgrifennu CV.

Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Nid oes angen i chi chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith. Gallwch weithio os ydych yn teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny.

Efallai y cewch arian ychwanegol yn ogystal â’ch lwfans safonol.

Eich ymrwymiad hawlydd

Bydd angen i chi gytuno i wneud rhai pethau i barhau i gael Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn eich ‘ymrwymiad hawlydd’.

Mae’ch ymrwymiad yn seiliedig ar eich sefyllfa ac efallai y bydd canlyniad eich Asesiad Gallu i Weithio’n effeithio arno.

Ailasesiadau

Os dechreuwch weithio, ni fydd angen i chi gael asesiad arall oni bai bod cyflwr eich iechyd yn newid.