Gweithio a hawlio Credyd Cynhwysol

Efallai y byddwch yn dal i gael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau ar unwaith, gan gynnwys dod o hyd i swydd neu ei gadael.

Gallwch ennill hyd at swm penodol heb iddo effeithio ar y swm o Gredyd Cynhwysol a gewch. Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith’.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod sut mae gweithio yn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.