Trosolwg

Mae premiymau anabledd yn symiau ychwanegol o arian sydd wedi’u hychwanegu at eich:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Budd-dal Tai

Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei ychwanegu at eich taliadau budd-dal yn awtomatig felly, fel arfer does dim rhaid i chi wneud cais am bremiwm anabledd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae yna 3 math o bremiwm anabledd ar gyfer oedolion:

  • premiwm anabledd
  • premiwm anabledd uwch
  • premiwm anabledd difrifol

Gallwch gael mwy nag un premiwm ar y tro.