Premiymau anabledd
Beth fyddwch yn ei gael
Gallwch gael premiwm anabledd ar ei ben ei hun. Efallai y byddwch yn cael premiwm anabledd difrifol neu uwch hefyd os ydych yn gymwys ar eu cyfer.
Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, ni allwch gael y premiwm anabledd, ond efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol a uwch.
Premiwm anabledd
Byddwch yn cael:
- £44.85 yr wythnos ar gyfer person sengl
- £64 yr wythnos ar gyfer cwpl
Premiwm anabledd difrifol
Byddwch yn cael:
- £86.05 yr wythnos ar gyfer person sengl
- £172.10 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw’r ddau ohonoch yn gymwys
Bydd rhai cyplau yn gymwys ar gyfer y cyfradd is o £86.05 yr wythnos yn lle.
Premiwm anabledd uwch
Byddwch yn cael:
- £22 yr wythnos ar gyfer person sengl
- £31.40 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw o leiaf un ohonoch yn gymwys
Sut cewch eich talu
Mae’r holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i gyfrif fel eich cyfrif banc.
Mae yna gyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl 16 oed i dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ei gael. Gelwir hyn yn Cap ar fudd-daliadau.