Trosolwg

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol i’ch helpu gyda’ch costau byw. Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Efallai y cewch swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar faint o waith gallwch ei wneud. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cyfeirio at hyn fel eich ‘gallu i weithio’.

Mae eich taliad misol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft eich cyflwr iechyd neu anabledd, incwm a chostau tai.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.

Cymorth arall gallwch ei gael

Efallai byddwch hefyd yn gymwys i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd.

Gwiriwch os allwch gael cymorth ariannol arall

Os gallai fod gennych lai na 12 mis i fyw

Efallai y cewch arian ychwanegol gan Gredyd Cynhwysol os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi dweud wrthych efallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw.

Os ydych yn gwneud cais newydd, gallwch ddatgan hyn yn ystod eich cais. Os ydych eisoes wedi gwneud cais, bydd angen i chi roi gwybod am hyn fel newid mewn amgylchiadau.

Ni fydd angen Asesiad Gallu i Weithio arnoch.

Darganfyddwch fwy am gael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes.