Cofrestru cerbyd
Cerbydau newydd ac ail-law
Cofrestru cerbyd newydd
Fel arfer, bydd y deliwr yn cofrestru cerbyd newydd sbon ar eich cyfer.
Os na fydd y deliwr yn gwneud hynny, gallwch gofrestru’r cerbyd eich hun.
Os yw eich cerbyd yn gerbyd nwyddau trwm (HGV) newydd, mae angen ichi hefyd gofnodi manylion eich HGV gyda’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).
Cofrestru cerbyd ail-law
Fel arfer, bydd y gwerthwr yn cofrestru cerbyd ail-law ar eich cyfer. Gallant wneud hynny ar-lein neu drwy’r post.
Bydd angen ichi gofrestru eich cerbyd ail-law eich hun os nad oes ganddo lyfr log cerbyd (V5CW).
Mae angen ichi drethu cerbyd ail-law cyn y gallwch ei ddefnyddio ar y ffordd.
Mae ffordd wahanol o gofrestru’r cerbyd os ydych yn ei gymryd dramor gan gynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon.
Cofrestru ar-lein
Bydd angen i’r gwerthwr:
-
llenwi’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd a’i roi ichi
-
dinistrio’r V5CW
Cofrestru drwy’r post
Bydd angen i’r gwerthwr:
-
gwblhau adran 2 os oes ganddynt V5CW steil newydd (gyda blociau amryliw wedi’u rhifo ar y blaen) neu adran 6 os oes ganddynt y V5CW steil hŷn
-
llofnodi’r datganiad yn adran 8 os oes ganddynt y V5CW steil hŷn (rhaid ichi lofnodi’r datganiad hefyd)
-
llenwi’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd a’i roi ichi
-
anfon y V5CW i DVLA
Os nad oes gan y cerbyd V5CW
Mae DVLA yn cynghori na ddylech brynu cerbyd sydd heb V5CW.
Lawrlwythwch ffurflen V62W a’i hanfon i DVLA i gofrestru’r cerbyd yn eich enw. Bydd angen ichi dalu £25.
Pryd y byddwch yn cael eich V5CW newydd
Fel arfer, byddwch yn cael eich V5CW newydd o fewn 4 wythnos wedi cofrestru’r cerbyd.
Byddwch yn cael eich V5CW newydd o fewn 5 i 7 diwrnod gwaith os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol i’ch cerbyd:
-
mae’n gerbyd ail-law
-
mae’r gwerthwr wedi ei gofrestru ichi ar-lein
Gwirio eich V5CW newydd
Pan fyddwch yn derbyn eich V5CW, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod yr holl fanylion yn gywir.
Os oes unrhyw beth ar eich V5CW yn anghywir
Gwnewch y newidiadau ar y V5CW a’i hanfon yn ôl i DVLA.
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Byddwch yn cael y V5CW amnewid o fewn 4 wythnos.
Os nad yw eich V5C newydd wedi cyrraedd
Os yw 4 wythnos wedi mynd heibio ers i’r V5CW gael ei chofrestru neu ichi ei hanfon i’w chywiro, cysylltwch â DVLA.
Cysylltwch â DVLA cyn i 6 wythnos fynd heibio. Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi dweud wrth DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un arall.
Os yw’n gerbyd ail-law sydd wedi’i gofrestru drwy’r post
Mae ffordd wahanol o gael V5CW arall wedi’i hanfon atoch chi. Bydd angen ichi:
-
lawrlwytho ffurflen V62W neu ei chael o ganghennau penodol o Swyddfa’r Post
-
ei hanfon i DVLA gyda’r slip ceidwad newydd gwyrdd a roddwyd ichi gan y gwerthwr
Mae angen i’r slip ceidwad newydd fod o’r V5CW ddiweddaraf. Gwiriwch fod y dyddiad ar y slip yn cydweddu â dyddiad cyhoeddi’r V5CW ddiwethaf ar y gwasanaeth ymholiadau cerbydau os nad ydych yn siŵr.
Os na fyddwch yn anfon y slip ceidwad newydd o’r V5CW ddiweddaraf, bydd rhaid ichi dalu £25.
Cysylltwch â DVLA os nad yw eich V5CW wedi cyrraedd ac mae 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi anfon ffurflen V62W.