Skip to main content

Cofrestru cerbyd

Sgipio cynnwys

Cerbydau wedi'u haddasu'n strwythurol

Os ydych yn addasu siasi, cragen corff unigol neu ffrâm i newid dimensiynau neu ymddangosiad y cerbyd, gelwir hyn yn ‘addasiad strwythurol’. 

Rhaid ichi ddweud wrth DVLA os ydych yn gwneud addasiad strwythurol i gerbyd.

Dim ond arbenigwr ddylai wneud addasiadau. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cerbyd bob amser yn ddiogel i yrru.

Mae proses wahanol i roi gwybod i DVLA os ydych yn amnewid y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm i gydweddu â manylebau’r gwneuthurwr.

Nid oes angen ichi ddweud wrthynt am unrhyw atgyweiriadau neu adferiadau eraill. 

Beth sy’n cyfrif fel addasiad strwythurol

Gall addasiad strwythurol ar gyfer ceir, beiciau modur neu gerbydau nwyddau ysgafn (o dan 3,500kg) gynnwys:

  • newid y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm (er enghraifft newid y siâp fel ei fod yn edrych fel math gwahanol o gerbyd)

  • ymestyn, byrhau neu ledu ffrâm beic modur

  • torri, ymestyn neu fyrhau pileri’r to

  • tynnu’r to

  • tynnu cawell gwrthrolio integredig

  • addasu neu dynnu is-fframiau neu aelodau cynnal sy’n dwyn llwyth

  • gwneud tyllau ychwanegol o fewn 30cm o unrhyw bwynt gosod hongiad, llyw, breciau, neu wregys diogelwch

  • troi beic modur yn feic tair olwyn

Mae hefyd angen ichi ddweud wrth DVLA os ydych yn addasu cerbyd drwy ei drosi i redeg ar drydan, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud addasiadau strwythurol fel newid yr ymddangosiad.

Gweler beth arall a allai gyfrif fel addasiad strwythurol.

Profi hunaniaeth wreiddiol eich cerbyd

Rhaid ichi gadw tystiolaeth o rif adnabod cerbyd (VIN) gwreiddiol eich cerbyd wrth addasu’ch cerbyd. Mae hyn yn cynnwys ffotograffau o’r canlynol:

  • y cerbyd

  • yr addasiadau sydd wedi’u gwneud

  • y VIN

Bydd hefyd angen ichi anfon eich llyfr log cerbyd (V5CW) i DVLA pan fyddwch yn dweud wrthynt am yr addasiad.

Ar ôl ichi wneud yr addasiad strwythurol

Dylech gael MOT ar y cerbyd a sicrhau bod eich yswiriant cerbyd yn dal yn ddilys.

Os yw’r cerbyd dros 40 oed, rhaid ichi gael MOT. Bydd angen ichi anfon prawf ohono pan fyddwch yn dweud wrth DVLA am y newid.

Troi beic modur yn feic tair olwyn

Os ydych yn troi beic modur yn feic tair olwyn gan ddefnyddio cit neu gynllun trosi, rhaid ei gofrestru fel cerbyd wedi’i drosi o git.

Os na wnaethoch ddefnyddio cit neu gynllun trosi, rhaid ichi ddweud wrth DVLA am yr addasiad strwythurol.

Os oes gan y cerbyd system tair olwyn wedi’i hasio, bydd angen i DVLA gyhoeddi rhif adnabod cerbyd (VIN). Bydd angen ichi gael cymeradwyaeth cerbyd unigol beic modur (MSVA).

Os oes angen ichi roi gwybod i DVLA am gerbyd sydd wedi’i addasu’n strwythurol

Cwblhewch ffurflen V627/3W - ‘Datganiad am gerbyd sydd wedi’i addasu’.

Anfonwch i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA ynghyd â’r canlynol: 

  • y llyfr log cerbyd (V5CW)

  • ffotograffau o’r VIN gwreiddiol, yr addasiadau sydd wedi’u gwneud a’ch cerbyd

  • prawf o MOT neu MSVA cyfredol (os oes angen)

Os yw’r cerbyd dros 40 oed, bydd angen ichi anfon prawf ei fod wedi cael MOT ers ichi wneud yr addasiad strwythurol.

Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Ar ôl ichi roi gwybod i DVLA am gerbyd sydd wedi’i addasu’n strwythurol

Bydd DVLA yn cyhoeddi tystysgrif gofrestru (V5CW) newydd sy’n nodi bod y cerbyd wedi’i addasu o fanyleb wreiddiol y gwneuthurwr.

Fel arfer, bydd y cerbyd yn cadw’r VIN gwreiddiol. Bydd DVLA yn dweud wrthych os oes rheswm pam na all ei gadw.

Os na all eich cerbyd gadw ei rif cofrestru gwreiddiol

Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru sy’n dechrau gyda ‘Q’ i’ch cerbyd os oes amheuaeth ynghylch ei oedran neu ei hunaniaeth.