Cofrestru cerbyd
Cofrestriadau newydd
Efallai nad yw eich cerbyd wedi’i gofrestru o’r blaen gyda DVLA os:
-
yw’n newydd sbon
-
yw’n gerbyd sydd wedi’i adeiladu o git
-
yw wedi’i fewnforio
-
yw’n gerbyd hen neu glasurol
Os ydych yn prynu cerbyd newydd sbon, bydd y deliwr fel arfer yn trefnu iddo gael ei gofrestru. Fel arall, mae angen ichi ei gofrestru eich hun.
Os ydych yn ail-fewnforio cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU o’r blaen - ac yna wedi’i allforio - bydd angen ichi ei gofrestru eto.
Os yw eich cerbyd wedi’i ddifrodi
Os yw eich cerbyd yn cael ei ddosbarthu fel ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’ ni allwch ei gofrestru gyda DVLA. Ni chewch ad-daliad am unrhyw TAW a tholl na ffi cymeradwyo cerbyd a dalwyd gennych cyn ceisio cofrestru’r cerbyd.
Mae difrod difrifol yn golygu nad oes modd atgyweirio’r cerbyd. Ar gyfer cerbydau o’r DU, mae hyn yn golygu ei fod yn gerbyd sydd wedi’i ddatgan fel anadferadwy gan gwmni yswiriant categori A neu B.
Ar gyfer cerbydau a fewnforir, gallai ddweud rhywbeth fel ‘cerbyd wedi’i ddiddymu’n statudol’ (‘statutory write-off’), ‘wedi’i sgrapio’ (’scrapped’) neu ‘anadferadwy’ (‘non-repairable’) ar y dystysgrif gofrestru.
Gwiriwch gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae’r cerbyd yn dod ohoni i gael gwybod os yw’r cerbyd ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’.
Os nad yw ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn.
Gwneud cais
Rhaid ichi lenwi ffurflen i wneud cais i gofrestru’r cerbyd.
Defnyddio ffurflen V55/4W ar gyfer cerbydau newydd
Llenwch y ffurflen V55/4W i gofrestru cerbyd newydd, gan gynnwys cerbydau newydd wedi’u mewnforio a cheir sydd newydd gael eu hadeiladu (ceir cit).
Defnyddio ffurflen V55/5W ar gyfer cerbydau ail-law
Llenwch y ffurflen V55/5W i gofrestru cerbyd ail-law, gan gynnwys:
-
cerbydau ail-law wedi’u mewnforio
-
cerbydau hŷn nad ydynt erioed wedi’u cofrestru
-
cerbydau sydd wedi cael eu dychwelyd i’r DU ar ôl cael eu hallforio
Darparu copïau o ddogfennau adnabod
Anfonwch lungopi o’ch trwydded yrru cerdyn-llun gyda’ch ffurflen gais i brofi pwy ydych chi.
Os na allwch wneud hyn, rhaid ichi anfon llungopïau o un ddogfen sy’n profi eich enw a dogfen arall sy’n profi eich cyfeiriad.
Mae’r dogfennau y gallwch eu defnyddio i gadarnhau eich enw yn cynnwys eich:
-
pasbort
-
tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
-
dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)
-
tystysgrif geni neu fabwysiadu
-
Tystysgrif Cydnabod Rhywedd
-
trwydded yrru bapur y DU gyfredol (nid gwrthddalen bapur)
Mae’r dogfennau y gallwch eu defnyddio i gadarnhau eich cyfeiriad yn cynnwys:
-
bil cyfleustodau diweddar (o fewn y 3 mis diwethaf) - er enghraifft nwy, trydan, dŵr, llinell dir
-
cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu ddiweddar (yn ystod y 3 mis diwethaf)
-
cerdyn meddygol
-
bil treth gyngor ar gyfer y flwyddyn bresennol
Gallwch lenwi ffurflen V959 - ‘Hysbysiad o wiriad enw a chyfeiriad’ yn lle’r dogfennau hyn i brofi eich hunaniaeth os ydych yn ddeiliad plât masnach DVLA cyfredol.
Dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer pob cerbyd
Yn ogystal â dogfennau i brofi eich hunaniaeth, rhaid ichi hefyd anfon:
-
taliad am y dreth cerbyd
-
y ffi gofrestru newydd o £55 os oes rhaid ichi ei thalu
-
tystysgrif newydd-deb (neu ddatganiad newydd-deb ar gyfer cerbydau a fewnforir) os yw’r cerbyd yn newydd
-
prawf o gymeradwyaeth cerbyd os yw’r cerbyd o dan 10 oed (oni bai ei fod wedi’i eithrio rhag cymeradwyaeth cerbyd)
-
unrhyw ddogfennau sydd gennych sy’n ymwneud â’r cerbyd, er enghraifft cynlluniau adeiladu os yw’n gar cit
-
tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant os ydych yn cofrestru’r cerbyd i gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon
-
prawf o MOT cyfredol os yw’r cerbyd dros 3 oed (dros 4 oed yng Ngogledd Iwerddon), fel copi o hanes MOT eich cerbyd
Ni fydd unrhyw brawf MOT a anfonwch ar gyfer cerbyd ysgafn neu feic modur yn cael ei ddychwelyd atoch.
Dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer rhai cerbydau
Efallai y bydd rhaid ichi anfon ffurflenni a dogfennau ychwanegol os:
- yw eich cerbyd wedi cael ei addasu’n strwythurol
- yw eich cerbyd wedi’i fewnforio
- yw eich cerbyd wedi’i adeiladu o git neu wedi’i drosi o git
- yw eich cerbyd yn hen
- yw eich cerbyd yn gerbyd clasurol wedi’i ailadeiladu
Ar ôl ichi wneud cais
Efallai y bydd angen i DVLA archwilio’ch cerbyd. Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd DVLA yn anfon llyfr log cerbyd (V5CW) atoch.
Mae eich V5CW yn dangos:
-
rhif cofrestru’r cerbyd
-
enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd
-
gwybodaeth arall am y cerbyd (y gwneuthuriad, y rhif adnabod cerbyd (VIN) a nifer y perchnogion blaenorol)
Bydd DVLA hefyd yn dychwelyd eich dogfennau adnabod.
Bydd angen ichi ddarparu amlen anfoniad arbennig ragdaledig â’ch enw a’ch cyfeiriad arni os ydych am i’r dogfennau gael eu dychwelyd drwy ddanfoniad arbennig.
Ni all DVLA warantu y bydd y dogfennau’n cael eu dychwelyd erbyn dyddiad penodol.