Skip to main content

Cofrestru cerbyd

Sgipio cynnwys

Ffi cofrestriadau newydd

Bydd rhaid ichi dalu ffi o £55 os ydych yn cofrestru ac yn trethu cerbyd am y tro cyntaf gyda DVLA.

Gallwch dalu drwy siec neu archeb bost. Ni allwch anfon arian parod. Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.

Nid oes rhaid ichi dalu am rai cerbydau, gan gynnwys:

  • y rhai a gofrestrwyd gyntaf ac a drwyddedwyd yn y dosbarth treth eithriedig i bobl anabl

  • cerbydau hanesyddol a gofrestrwyd yn flaenorol gyda’r hen awdurdodau lleol (trosiadau hwyr)

  • cerbydau a gofrestrwyd yn flaenorol yn y Deyrnas Unedig

  • cerbydau a fewnforiwyd a oedd wedi’u cofrestru’n flaenorol o dan y cynllun allforio personol a’r cynllun dull cludo newydd

  • cerbydau lluoedd sy’n ymweld

  • cerbydau a gofrestrwyd o dan y cynllun allforio uniongyrchol (oni bai eu bod yn dychwelyd i’r DU ar ôl cael eu cofrestru mewn gwlad arall)

  • cerbydau a gofrestrwyd i’w defnyddio oddi ar y ffordd yn unig

  • cerbydau’r goron sydd wedi’u heithrio