Cofrestru cerbyd
Cerbydau clasurol wedi'u hailadeiladu
Rhaid i’ch cerbyd gydymffurfio â’r rheoliadau cerbydau ar y ffordd os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd.
Gallwch gael un o’r canlynol:
-
rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran
-
rhif cofrestru ‘Q’
Sut i gofrestru
Rhaid ichi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd newydd.
Rhaid ichi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:
-
prawf o gymeradwyaeth math, os oes angen
-
derbynebau swyddogol ar gyfer unrhyw rannau a ddefnyddiwyd
-
adroddiad ysgrifenedig gan y clwb perchnogion cerbydau priodol
Cael rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran
Dim ond os yw’n bodloni meini prawf penodol y gall DVLA gydnabod eich cerbyd fel cerbyd clasurol wedi’i ailadeiladu. Rhaid iddo:
-
fod wedi’i adeiladu o gydrannau cyfnod dilys o fwy nag un cerbyd, pob un dros 40 oed ac o’r un fanyleb â’r cerbyd gwreiddiol
-
fod yn adlewyrchiad gwir o wneuthuriad a model y cerbyd (a elwir yn ‘marque’)
-
gael ei archwilio gan glwb perchnogion cerbydau
Os oes gan eich cerbyd siasi a chragen corff wedi’u cyfuno
Rhaid i gerbydau sydd â siasi a chragen corff wedi’u cyfuno (a elwir hefyd yn gerbydau â ‘chragen corff unigol’) gael eu hadeiladu bob amser gan ddefnyddio rhannau dilys o’r cyfnod o fwy nag un cerbyd, a phob un ohonynt dros 40 oed.
Os oes gan eich cerbyd siasi a chragen corff ar wahân
Os nad oes cragen corff wreiddiol ar gael, gellir defnyddio cragen corff newydd a adeiladwyd i gymryd lle un arall. Rhaid iddi fod o’r un fanyleb ag y byddai wedi bod pan oedd y cerbyd yn cael ei gynhyrchu. Rhaid i’r holl rannau eraill fod yn rannau dilys o’r cyfnod sy’n hŷn na 40 oed, gan gynnwys y siasi.
Cael archwiliad gan glwb perchnogion cerbydau
Rhaid i’r clwb perchnogion cerbydau priodol ar gyfer y marque archwilio’r cerbyd a chadarnhau yn ysgrifenedig ei fod:
-
wedi’i archwilio
-
yn adlewyrchiad gwir o’r marque
Rhaid iddynt hefyd roi dyddiadau gweithgynhyrchu ar gyfer y prif gydrannau.
Bydd DVLA yn aseinio rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran i’r cerbyd yn seiliedig ar y gydran ieuengaf a ddefnyddiwyd (ac eithrio cragen corff newydd a adeiladwyd i gymryd lle un arall).
Cael rhif cofrestru Q
Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru rhagddodiad ‘Q’ i’ch cerbyd os nad ydych yn bodloni’r amodau ar gyfer cael rhif cofrestru gwreiddiol sy’n seiliedig ar oedran.
Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru Q.
Rhaid i gerbydau â Thystysgrif Ddinistrio (CoD) byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn neu gael eu cyflwyno i’w cofrestru, er y gellir ailgylchu rhai cydrannau. Ni allwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol na’r rhif adnabod cerbyd.