Skip to main content

Cofrestru cerbyd

Sgipio cynnwys

Atgyweiriadau ac adferiadau

Mae atgyweiriadau ac adferiadau yn dod â cherbyd yn ôl i fanylebau’r gwneuthurwr. Er enghraifft, atgyweirio cydrannau neu baneli corff.

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cerbyd bob amser yn ddiogel i yrru.

Mae dim ond angen ichi roi gwybod i DVLA am atgyweiriad neu adferiad os:

Mae proses wahanol i roi gwybod i DVLA os ydych wedi addasu’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm i wneud y cerbyd yn wahanol i fanylebau’r gwneuthurwr.

Beth sy’n cyfrif fel atgyweiriad neu adferiad

Gall atgyweiriadau neu adferiadau ar gyfer ceir, beiciau modur neu gerbydau nwyddau ysgafn (o dan 3,500kg) gynnwys: 

  • atgyweirio’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm (rhaid i hwn gael ei asio â sêm barhaus)

  • amnewid llawr cist y cerbyd, lleoedd traed, sil, llyw, hongiad, gerflwch neu echel

  • amnewid bwâu olwynion 

  • addasu adenydd i ganiatáu ar gyfer olwynion lletach

  • ychwanegu bar gwrthrolio neu gawell gwrthrolio

  • tynnu bar gwrthrolio neu gawell gwrthrolio a osodwyd ar ôl i’r car gael ei gynhyrchu (rhaid asio sêm barhaus dros dyllau i ddychwelyd cerbyd i’w gyflwr gwreiddiol)

  • amnewid is-fframiau

  • amnewid y ffyrc ar feic modur

  • gosod gwregysau diogelwch (gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr)

  • gosod ategolion o gyfnod hysbys yn hanes y car

Darllen y canllaw ar atgyweirio neu adfer cerbyd (INF318W).

Cyn ichi wneud atgyweiriad neu adferiad

Rhaid i chi gadw ffotograffau o rif adnabod y cerbyd (VIN) os bydd y gwaith atgyweirio neu adfer yn golygu na fydd modd adnabod y VIN bellach. Mae’r VIN yn eich helpu i brofi hunaniaeth wreiddiol y cerbyd.

Defnyddio rhannau ail-law

Dim ond rhannau bach y gellir eu cymryd o gerbyd sydd wedi cael Tystysgrif Ddinistrio (CoD).

Rhaid i gerbydau â CoD byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn neu gael eu cyflwyno i’w cofrestru. Er y gellir ailgylchu rhai cydrannau, ni allwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol na’r rhif adnabod cerbyd.

Ar ôl ichi wneud yr atgyweiriad neu adferiad

Dylech gael gwiriad MOT ar gyfer eich cerbyd a sicrhau bod yswiriant eich cerbyd yn dal yn ddilys.

Gallwch gael archwiliad cymeradwyaeth cerbyd unigol (IVA) yn lle MOT os oes gennych gar.

Os oes angen ichi roi gwybod i DVLA am atgyweiriad neu adferiad

Cwblhewch ffurflen V627/1W - ‘Datganiad am rannau cerbyd’.

Anfonwch y ffurflen i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA ynghyd â’r canlynol: 

  • y llyfr log cerbyd (V5CW) neu gais V62W os nad yw’r V5CW ar gael

  • copïau o dderbynebau ar gyfer unrhyw amnewidiadau i’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm

Rhaid ichi hefyd anfon ffotograffau o’r canlynol:

  • y stamp neu blât rhif adnabod cerbyd (VIN) ar yr hen siasi, cragen corff unigol neu ffrâm sy’n cael ei hamnewid

  • yr hen sticer VIN - fel arfer gallwch ddod o hyd iddo ger drws y gyrrwr neu ar y dangosfwrdd ger y ffenestr flaen ar ochr y gyrrwr

Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth sydd angen ichi ei ddarparu.

Ar ôl ichi roi gwybod i DVLA am atgyweiriad neu adferiad

Bydd DVLA yn anfon llythyr atoch i gadarnhau y gellir stampio’r VIN gwreiddiol a ddangosir ar gofnod y cerbyd ar y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm amnewid.

Anfonir V5CW newydd ar ôl ichi gadarnhau bod y cerbyd wedi’i ail-stampio. 

Fel arfer, bydd y cerbyd yn cadw’r VIN gwreiddiol. Bydd DVLA yn dweud wrthych os oes rheswm pam na all ei gadw.

Os na all eich cerbyd gadw ei rif cofrestru gwreiddiol

Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru sy’n dechrau gyda ‘Q’ i’ch cerbyd os oes amheuaeth ynghylch ei oedran neu ei hunaniaeth.