Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Sgipio cynnwys

Pan fydd angen ichi ddiweddaru’ch V5CW

Rhaid ichi ddiweddaru’r manylion ar eich tystysgrif gofrestru (V5CW) i ddweud wrth DVLA am:

  • gamgymeriadau ar eich V5CW

  • y rhan fwyaf o newidiadau a wnewch i’ch cerbyd

Ni allwch newid dosbarth treth drwy ddiweddaru eich V5CW. Rydych yn gwneud hyn drwy newid eich treth cerbyd - hyd yn oed os ydych yn newid i ddosbarth treth sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd, er enghraifft ‘anabl’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Newidiadau y mae’n rhaid ichi eu rhoi yn eich V5CW

Rhaid ichi ddiweddaru eich V5CW pan rydych yn newid unrhyw un o’r canlynol:

  • lliw

  • injan

  • capasiti silindr (cc)

  • math o danwydd – er enghraifft, os ydych yn trosi’ch cerbyd i redeg ar drydan

  • capasiti seddi

  • pwysau cerbyd mawr, er enghraifft cerbyd nwyddau neu fan wersylla

  • siasi, cragen gorff neu ffrâm beic modur (os yw eu maint neu eu hymddangosiad yn wahanol i’r adeg y gwnaed eich cerbyd – cael gwybod am addasiadau strwythurol

Dweud wrth DVLA am newidiadau tebyg am debyg

Hyd yn oed os nad ydych yn newid ymddangosiad neu ddimensiynau gwreiddiol y cerbyd, rhaid ichi ddweud wrth DVLA os ydych yn adfer neu’n amnewid y canlynol ar eich cerbyd:

  • siasi
  • siasi a chragen gorff gyfunol (a elwir weithiau yn ‘gragen corff unigol’)
  • ffrâm beic modur

Nid oes angen ichi ddiweddaru’ch V5CW ond rhaid ichi ddweud wrth DVLA gan ddefnyddio ‘Datganiad am rannau cerbyd’ (V627/1W).

Cael gwybod am atgyweiriadau ac adferiadau.

Newidiadau y gallai fod angen eu harchwilio

Rhaid ichi hefyd ddiweddaru eich V5CW os ydych yn newid unrhyw un o’r canlynol:

  • cynllun olwynion

  • math o gorff, er enghraifft rydych yn trosi fan yn fan wersylla neu’n ‘garafán fodur’ (mae DVLA yn rhoi disgrifiad o fath o gorff yn seiliedig ar ymddangosiad allanol y cerbyd)

  • rhif adnabod y cerbyd (VIN)

  • rhif siasi

  • rhif ffrâm ar gyfer beiciau modur

Bydd DVLA yn dweud wrthych os oes angen iddynt archwilio’r newid.