Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
Pa dystiolaeth i'w rhoi
Rhaid ichi roi tystiolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig i DVLA os ydych yn gwneud unrhyw un o’r newidiadau canlynol i’ch cerbyd. Bydd eich diweddariad V5CW yn cael ei wrthod os na wnewch hynny.
Newid rhif injan neu gapasiti silindr (cc)
Mae angen ichi ddarparu un o’r canlynol:
-
derbynneb am yr injan newydd sy’n cynnwys rhif yr injan a’r capasiti silindr
-
tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr
-
adroddiad archwilio a ddarperir at ddibenion yswiriant
-
cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan garej (os digwyddodd y newid cyn ichi brynu’r cerbyd)
Newid y math o danwydd
Mae angen ichi ddarparu tystiolaeth os:
-
yw eich injan bresennol wedi’i throsi – rhaid i’r cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y garej a wnaeth y gwaith
-
yw injan newydd wedi’i gosod – bydd angen ichi anfon y dderbynneb
-
ydych wedi trosi’ch cerbyd i redeg ar drydan
Newid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm, neu drosiad trydan
Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gyda’ch diweddariadau V5CW, os ydych wedi:
-
newid (‘addasu’) neu amnewid siasi eich cerbyd
-
addasu neu amnewid siasi a chragen gorff gyfunol eich cerbyd (cragen corff unigol)
-
addasu neu amnewid ffrâm eich beic modur
-
trosi eich cerbyd i redeg ar drydan
Os nad ydych yn newid golwg a maint gwreiddiol y cerbyd
Os ydych wedi amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm heb newid dimensiynau na golwg y cerbyd ers iddo gael ei wneud gyntaf, rhaid ichi ddarparu:
-
y dystysgrif gofrestru V5CW ddiweddaraf neu ffurflen gais V62W
-
V5CW y cerbyd y mae unrhyw ran amnewid yn dod ohono, os nad ydych yn defnyddio rhannau newydd
-
anfoneb neu dderbynneb sy’n cynnwys manyleb y siasi newydd - gallwch anfon yr un gwreiddiol neu lungopi
Rhaid ichi anfon ffotograffau o’r canlynol i gyd:
-
y cerbyd cyfan, gan gynnwys ei flaen, ei gefn, ei ochrau, ei du mewn a’i blât rhif cofrestru
-
rhif injan y cerbyd
-
y stamp neu blât rhif adnabod cofrestru’r cerbyd (VIN) ar yr hen siasi neu ffrâm sy’n cael ei amnewid
-
yr hen sticer VIN - fel arfer gallwch ddod o hyd iddo ger drws y gyrrwr neu ar y panel deialau ger y ffenestr flaen ar ochr y gyrrwr
Os ydych wedi gwneud addasiad strwythurol neu drosiad i drydan
Mae gan eich cerbyd addasiad strwythurol os ydych wedi newid (‘addasu’) y dimensiynau neu’r ymddangosiad gwreiddiol ac unrhyw un o’r canlynol:
-
siasi
-
cragen corff unigol
-
ffrâm
Os ydych wedi trosi’ch cerbyd i redeg ar drydan, mae’n cyfrif fel addasiad.
Rhaid ichi anfon y dystiolaeth ganlynol o’r addasiad strwythurol neu’r trosiad trydan pan rydych yn diweddaru’ch V5CW:
-
V627/3W datganiad am gerbyd sydd wedi’i addasu, sy’n cynnwys y rhif cofrestru a manylion yr addasiad
-
tystiolaeth o MOT cyfredol, os oes angen un ar eich cerbyd
-
cymeradwyaeth cerbyd unigol beic modur (MSVA), os oes angen un ar eich beic modur
Newid pwysau cerbyd mwy
Os ydych yn newid pwysau cerbyd mawr (er enghraifft, fan wersylla neu gerbyd nwyddau), bydd angen ichi ddarparu naill ai:
-
tystysgrif platio
-
tystysgrif pwysau dylunio
Newid y math o gorff yn garafán modur
Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch pan rydych yn trosi fan yn fan wersylla neu garafán fodur.