Skip to main content

Cofrestru cerbyd

Sgipio cynnwys

Cerbydau wedi'u trosi o git

Rhaid i’ch cerbyd fodloni’r rheoliadau cerbydau ar y ffordd os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd.

Mae cerbyd wedi’i drosi o git wedi cael un o’r canlynol:

  • cit o rannau newydd wedi’u hychwanegu at gerbyd presennol

  • hen rannau wedi’u hychwanegu at git newydd

Bydd ymddangosiad cyffredinol y cerbyd yn newid oherwydd y cit.

Sut i gofrestru

Rhaid ichi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd newydd.

Bydd angen ichi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:

  • ffurflen V627/1W

  • y llyfr log cerbyd (V5CW) ar gyfer y cerbyd gwreiddiol

  • prawf o gymeradwyaeth math, os oes angen

  • derbynebau swyddogol ar gyfer unrhyw rannau a ddefnyddiwyd

  • cynlluniau adeiladu

  • ffotograffau o’r cerbyd

Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth sydd angen ichi ei ddarparu.

Anfonwch eich cais i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA.

Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Cadw rhif cofrestru gwreiddiol cerbyd

Gallwch wneud cais i gadw rhif cofrestru gwreiddiol cerbyd wedi’i drosi o git os gallwch brofi eich bod wedi defnyddio 2 ran fawr wreiddiol ynghyd â’r:

  • siasi wreiddiol heb ei haddasu (car neu fan ysgafn)

  • cragen corff unigol wreiddiol heb ei haddasu (car neu fan ysgafn)

  • ffrâm heb ei haddasu (beic modur)

Cael rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran

Gallwch wneud cais am rif sy’n seiliedig ar oedran os gallwch brofi eich bod wedi defnyddio 2 ran fawr wreiddiol ynghyd â:

  • chragen corff unigol, siasi neu ffrâm newydd gan wneuthurwr cit arbenigol

  • siasi, cragen corff unigol neu ffrâm wedi’i newid o’r cerbyd presennol

Bydd y rhif cofrestru yn seiliedig ar oedran y cerbyd gwreiddiol.

Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran.

Cael rhif cofrestru Q

Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru rhagddodiad ‘Q’ i’ch cerbyd os nad ydych yn bodloni’r amodau ar gyfer cael rhif cofrestru gwreiddiol neu sy’n seiliedig ar oedran.

Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru Q.

Rhaid i gerbydau â Thystysgrif Ddinistrio (CoD) byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn neu gael eu cyflwyno i’w cofrestru, er y gall rhai cydrannau fod yn rhai wedi’u hailgylchu. Ni allwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol na’r rhif adnabod cerbyd.