Skip to main content

Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol

Sgipio cynnwys

Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • drwy ffonio’ch banc

Talu o gyfrif banc yn y DU

Gwnewch eich taliad i’r cyfrif banc Cyllid a Thollau EF (CThEF) canlynol:

  • cod didoli - 08 32 20
  • rhif y cyfrif - 12001004
  • enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts

Cyfeirnod talu

Defnyddiwch eich cyfeirnod 18 digid wrth wneud eich taliad. Bydd hyn i’w weld ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.

Ar gyfer taliadau chwarterol, bydd eich cyfeirnod yn dechrau gydag 11.

Ar gyfer taliadau untro, bydd eich cyfeirnod yn dechrau gyda 60.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â’r adran ymholiadau am Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Taliadau tramor

Dylech ond defnyddio’r manylion canlynol os ydych yn defnyddio cyfrif tramor:

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB49 BARC 2020 4830 9447 93
  • enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts

Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeirnod taliad tramor

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna lythyren gyntaf eich enw cyntaf. Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghreifftiau

Os mai Anne Jones yw’ch enw, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Os mai John Douglas-Hamilton yw eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol yw QQ123456A, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICDOUGLAS-HAMILTONJ

Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr sy’n 13 o gymeriadau.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â’r adran ymholiadau am Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Cyfeiriad bancio

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Ar ôl i chi dalu

Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.