Skip to main content

Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol

Sgipio cynnwys

Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Talwch ag arian parod neu siec yn eich cangen. Bydd angen arnoch y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF gyda’ch cais am daliad.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch wneud y canlynol:

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â’r adran ymholiadau am Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd ei gyfrif.

Ar ôl i chi dalu

Bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol yn cael eu diweddaru ar ôl i CThEF gael y taliad. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.