Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Os ydych yn gweithio neu’n byw dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)
Mae’n rhaid i chi wirio a allwch chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer amser a dreuliwyd dramor.
Os ydych yn gallu gwneud y taliadau hyn, bydd angen i chi wneud cais i dalu cyfraniadau (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn gwneud unrhyw daliad mae’n rhaid i chi aros nes i chi gael llythyr derbyn gan CThEF. Bydd y llythyr derbyn yn cynnwys eich cyfeirnod talu.
Unwaith y byddwch yn cael eich llythyr derbyn, gallwch ddewis gwneud y canlynol: