Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol
Talu â siec drwy’r post
Gallwch dalu drwy anfon siec at:
Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX5 5BD
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Bydd y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF yn cynnwys slip talu gyda chyfeirnod 18 digid arno. Anfonwch y slip talu ynghyd â’ch siec.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec.
Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Os nad oes gennych slip talu CThEF
Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:
-
eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
-
faint rydych yn ei dalu
-
y cyfnod rydych yn talu ar ei gyfer
-
eich cyfeirnod 18 digid neu’ch rhif Yswiriant Gwladol
Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.