Gweithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch barhau i weithio heibio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch fel arfer weithio cyn belled ag y rydych eisiau. Nid yw ‘Oedran Ymddeol Diofyn’ (oedran ymddeol wedi’i orfodi o 65) yn bodoli mwyach.

Gallwch hefyd ofyn i’ch cyflogwr os gallwch weithio’n fwy hyblyg neu weithio’n rhan amser. Mae ganddynt yr hawl i wrthod hyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd y gallwch gael eich gorfodi i ymddeol

Mewn rhai achosion gall cyflogwr eich gorfodi i ymddeol ar oedran penodol – gelwir hyn yn ‘oedran ymddeol gorfodol’. Os ydynt yn gwneud hyn mae’n rhaid iddynt roi rheswm da pam, er enghraifft:

  • mae’r swydd angen galluoedd corfforol arbennig (e.e. yn y diwydiant adeiladu)
  • mae gan y swydd derfyn oedran wedi’i osod gan y gyfraith (e.e. gwasanaeth tân)

Os ydych wedi cael eich trin yn anghyfreithlon

Mae’r gyfraith yn eich diogelu rhag gwahaniaethu, e.e. os ydych yn gwneud cais am swydd newydd nid oes rhaid i chi roi eich dyddiad geni.

Os ydych yn teimlo bod cyflogwr wedi’ch trin yn annheg gallwch wneud cais i dribiwnlys cyflogaeth.

Cael gwybod am wahaniaethu a’r gyfraith.

Gwneud cais am eich pensiwn wrth weithio

Gallwch wneud cais am eich pensiwn tra rydych yn gweithio, cyn belled eich bod wedi cyrraedd:

  • oedran Pensiwn y Wladwriaeth, os ydych yn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth
  • yr oedran a gytunwyd gyda’ch darparwr pensiwn, os yw’n bensiwn personol neu’n bensiwn gweithle

Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn oedi (gohirio) cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn cael taliadau wythnosol mwy pan fyddwch yn dechrau ei gymryd.

Pensiwn Gweithle

Os oes gennych bensiwn gweithle, gallai gostwng eich oriau effeithio ar faint a gewch – gwiriwch gyda’ch cyflogwr.

Gwiriwch beth sy’n digwydd i’ch pensiwn gweithle os ydych yn parhau i weithio y tu hwnt i’r oedran y gallwch ei gymryd.

Yswiriant Gwladol a threth

Nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio heibio oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallech dalu treth – mae’n dibynnu ar faint yw cyfanswm eich incwm.

Darganfyddwch fwy am dreth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.