Cofrestru cerbyd sydd wedi’i fewnforio

Mae’n rhaid i chi gofrestru eich cerbyd gyda’r DVLA os ydych chi’n dod ag ef i mewn i’r DU yn barhaol.

Cyn i chi gofrestru’ch cerbyd, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Bydd angen i chi dalu ffi gofrestru o £55 a threthu eich cerbyd pan fyddwch chi’n ei gofrestru.

Sut i gofrestru

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) i lenwi’ch ffurflenni ac anfon dogfennau ategol.

Gallwch hefyd anfon unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer cerbyd sydd wedi’i fewnforio.

Efallai y bydd DVLA yn gofyn i archwilio’r cerbyd.

Dogfennau ategol ychwanegol ar gyfer cerbydau sydd wedi’u mewnforio

Mae’n rhaid i chi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:

  • tystiolaeth o gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd

  • ffurflen V267 (yn agor tudalen Saesneg) (weithiau yn cael ei alw’n ‘datganiad o fod yn newydd’) os ydych chi’n cofrestru cerbyd newydd

  • tystiolaeth sy’n dangos y dyddiad y cafodd y cerbyd ei gasglu, er enghraifft yr anfoneb gan y cyflenwr

  • y dystysgrif gofrestru tramor wreiddiol i ddangos pryd y cafodd y cerbyd ei gynhyrchu (ni fyddwch yn cael hyn yn ôl)

Mae angen i chi ddarparu gwahanol ddogfennau os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU sydd wedi’i gofrestru o’r blaen.

Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, efallai y bydd DVLA yn derbyn tystiolaeth arall o’r dyddiad gweithgynhyrchu, er enghraifft llythyr gan y gwneuthurwr neu glwb selogion cerbydau.

Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Gall gymryd hyd at 6 wythnos i’ch tystysgrif cofrestru (V5C) ddod i law.

Mae angen y V5C arnoch i drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.