Rhoi gwybod i CThEF

Mae gennych 14 diwrnod i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar ôl ichi ddod â cherbyd i mewn i’r DU yn barhaol. Ni allwch gofrestru’r cerbyd nes eich bod wedi gwneud hyn.

Bydd sut rydych yn rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar y canlynol:

  • p’un a ydych chi’n ei fewnforio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu i Ogledd Iwerddon

  • o ble rydych yn ei fewnforio

Mae’n bosibl y cewch ddirwy os byddwch yn hwyr yn rhoi gwybod i CThEF. 

Os oes gan eich cerbyd injan o 48cc neu lai (7.2kw neu lai os yw’n drydan), gallwch ei gofrestru heb roi gwybod i CThEF yn gyntaf.

Os ydych yn mewnforio cerbyd i Brydain Fawr o unrhyw le, neu i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE

Mae sut rydych yn rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW.

Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) os ydych yn gwmni sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW

Rhaid ichi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) o fewn 14 diwrnod. Gallwch ddefnyddio taenlen os oes angen ichi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau.

Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • na allwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA - gofynnwch am ffurflen TAW NOVA1 yn lle hynny

  • mae angen help arnoch i gwblhau cais NOVA

Gwneud datganiad NOVA os ydych yn unigolyn preifat neu gwmni sydd heb gofrestru ar gyfer TAW

Rhaid ichi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy wneud datganiad NOVA. Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo neu’n dod ag ef i mewn eich hun.

Os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo, gellir gwneud y datganiad NOVA gan un o’r canlynol: 

  • eich cwmni cludo neu asiant tollau (efallai y byddant yn codi ffi ychwanegol am wneud hyn)

  • tîm CARS CThEF ar eich rhan

Rhaid gwneud hyn o fewn 14 diwrnod i ddod â’r cerbyd i mewn.

Bydd angen y canlynol ar bwy bynnag sy’n gwneud y datganiad NOVA:

  • dogfennau tollau C88 ac E2 neu’ch dogfen mewnforio Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd

  • yr anfoneb neu’r bil gwerthu ar gyfer eich cerbyd - os gwnaethoch ei brynu yn ystod y 6 mis diwethaf

  • prisiad presennol os gwnaethoch brynu’r cerbyd fwy na 6 mis yn ôl - rhaid i hyn gael ei wneud yn bersonol yn y DU gan garej, deliwr neu fusnes cydnabyddedig arall

  • copi o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau VIN neu rif siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio) 

Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhaid ichi gysylltu â thîm CARS CThEF a rhoi gwybod iddynt os: 

  • gwnaethoch brynu’r cerbyd y tu allan i’r DU yn ddiweddar

  • ydych wedi symud i’r DU a dod â’ch cerbyd gyda chi

  • ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU yr oeddech yn berchen arno yma yn flaenorol

  • ydych wedi etifeddu’r cerbyd gan rywun sy’n byw y tu allan i’r DU

Rhaid ichi wneud hyn o fewn 14 diwrnod o ddod â’r cerbyd i mewn.

Yna bydd CThEF yn rhoi gwybod y canlynol ichi os: 

  • oes angen ichi dalu unrhyw TAW neu doll dramor 

  • ydych yn gymwys i gael unrhyw ryddhad

Os oes unrhyw TAW neu doll dramor yn ddyledus, bydd angen ichi hurio cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Byddant yn rhoi gwybod ichi faint i’w dalu a sut i wneud hyn, yn ogystal â darparu’r dogfennau sydd eu hangen i wneud datganiad NOVA

Bydd angen ichi anfon y dogfennau hyn at dîm CARS CThEF fel y gallant wneud datganiad NOVA ichi.

Rhaid ichi fod wedi talu unrhyw drethi mewnforio sy’n ddyledus cyn y gall CThEF wneud y datganiad NOVA.

Gallwch gysylltu â’r tîm CARS drwy e-bost neu drwy’r post:

Tîm CARS CThEF
ecsm.nchcars@hmrc.gov.uk

Busnes, Treth a Thollau / Business, Tax and Customs
Cyllid a Thollau EF
BX9 1EH

Mewnforio cerbyd o Ynys Manaw

Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, nid oes angen ichi wneud cais NOVA. Mae dim ond angen ichi anfon ffurflen V55 wedi’i llenwi a dogfen gofrestru Ynys Manaw ar gyfer y cerbyd i DVLA.

Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, neu os oes ganddo blatiau trwydded y DU o hyd, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio am ffurflen NOVA1. Anfonwch y ffurflen hon a llythyr eglurhaol yn esbonio’r sefyllfa i’r Uned Trafnidiaeth Bersonol.

Uned Trafnidiaeth Bersonol  
Cyllid a Thollau EF  
BX9 1GD

Os ydych yn mewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE

Rhowch wybod i CThEF drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA).

Gallwch ddefnyddio taenlen os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae angen ichi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau.

Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio am ffurflen NOVA1.

Ar ôl ichi roi gwybod i CThEF

Bydd CThEF yn rhoi gwybod ichi:

  • os oes rhaid ichi dalu TAW a tholl dramor - mae hyn yn berthnasol dim ond os gwnaethoch ddod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel

  • pan fydd eich cais NOVA wedi’i brosesu – ni allwch gofrestru eich cerbyd gyda DVLA tan ar ôl hynny

Help a chymorth

Cysylltwch â’r llinell gymorth TAW i gael help gyda TAW.

Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio i gael help gyda mewnforio cerbyd.