Dod â cherbyd yn ôl i’r DU

Rhaid ichi gofrestru cerbyd pan fyddwch yn ei ail-fewnforio i’r DU os:

  • yw wedi’i gofrestru yn y DU yn flaenorol

  • yw wedi cael ei allforio i wlad arall

Dylech wneud y canlynol:

  1. Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn 14 diwrnod bod y cerbyd wedi cyrraedd y DU.

  2. Talu unrhyw TAW a tholl dramor sy’n ddyledus arnoch.

  3. Cofrestru a threthu’r cerbyd gyda DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru ichi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.

Nid oes angen ichi gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd.

Mae’n rhaid ichi hefyd yswirio’ch cerbyd cyn ichi ei yrru ar ffyrdd y DU.

Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.

Bydd arnoch angen dogfennau ategol ychwanegol i gofrestru cerbyd sydd wedi’i addasu’n strwythurol.

Pan fyddwch yn cofrestru cerbyd wedi’i ail-fewnforio

Unwaith y bydd eich cerbyd wedi pasio ei MOT, dylech gofrestru a threthu’r cerbyd. Nid oes angen ichi dalu’r ffi o £55.

Rhaid ichi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:

  • tystiolaeth sy’n dangos unrhyw newidiadau a wnaed i’r cerbyd, er enghraifft anfoneb i ddangos newidiadau lliw neu newidiadau injan

  • y dystysgrif gofrestru dramor wreiddiol (ni fyddwch yn cael hon yn ôl)

Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, anfonwch lythyr i DVLA i esbonio pam nad yw gennych.

Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.

Os yw’ch cerbyd oddi ar y ffordd 

Pan fyddwch yn ail-fewnforio’ch cerbyd i’r DU, mae angen ichi ei dynnu oddi ar y ffordd os na allwch neu os nad ydych eisiau cael MOT. Er enghraifft, os nad ydych am drethu eich cerbyd oherwydd eich bod yn bwriadu ei werthu neu oherwydd nad yw’ch cerbyd yn addas i’ch ffordd eto.

Os yw’ch cerbyd oddi ar y ffordd, mae angen ichi wneud hysbysiad oddi ar y ffordd statudol (HOS)

Mae angen ichi gofrestru’r cerbyd o hyd os ydych yn gwneud HOS. Yna byddwch yn cael llyfr log cerbyd (V5CW).